Woman sitting on Senedd steps

Y Senedd

Woman sitting on Senedd steps

Y Senedd

Pwyllgor yn y Senedd yn herio Llywodraeth Cymru ynghylch y gronfa twf lleol

Cyhoeddwyd 23/02/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/02/2026

Mae Pwyllgor yr Economi yn y Senedd yn rhybuddio bod Cymru’n wynebu gostyngiad sylweddol mewn cyllid a risgiau i ddiogelwch swyddi, ac efallai na fydd Cyd-bwyllgorau Corfforedig (y Cyd-bwyllgorau) yn gallu cyflawni elfennau rhanbarthol o’r Gronfa Twf Lleol newydd.

Yn ôl adroddiad newydd, mae pryderon difrifol wedi cael eu codi ynghylch trefniadau arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gronfa Twf Lleol (y Gronfa) newydd.

Mae’r Gronfa Twf Lleol yn gronfa datblygu economaidd newydd a grëwyd gan Lywodraeth y DU. 

Dyma'r fersiwn ddiweddaraf o gyllid datblygu economaidd rhanbarthol ac mae'n olynydd i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin (yr SPF). Bydd yn gweithredu ar draws y DU. 

Bydd Cymru yn cael £547 miliwn o'r gronfa eleni a’r ddwy flynedd ariannol nesaf.

Dywedodd Andrew RT Davies AS, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig:

“Clywsom fod Cymru ar fin cyrraedd canmlwyddiant cythreulig, sef canrif o ddirywiad economaidd cymharol. Mae angen inni gael ymyriadau economaidd cryf i wrthdroi'r dirywiad hwn, i gefnogi’r cymunedau sydd fwyaf agored i niwed, ac i greu twf economaidd, cymdeithasol a chymunedol. 

“Er nad yw’r Gronfa Twf Lleol yn ateb i bob problem, mae’n hanfodol bod y cyllid yn chwarae ei ran er mwyn gwrthdroi’r dirywiad economaidd hwnnw.

“Nid yw Cymru’n gallu fforddio cyfnod arall o danfuddsoddi neu ansicrwydd. Rhaid i'r Gronfa Twf Lleol fod yn fodd o leihau anghydraddoldeb a chynyddu cynhyrchiant - ond mae'r gostyngiad sylweddol mewn cyllid, y pryderon ynghylch darpariaeth ranbarthol, a’r risgiau i swyddi crefftus yn heriau mawr. 

“Rhaid i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ailystyried eu dull gweithredu ar frys - er mwyn sicrhau bod y gronfa hon yn darparu buddion ystyrlon i’r cymunedau sydd eu hangen fwyaf.”

Gostyngiad sydyn mewn cyllid o'i gymharu â chymorth blaenorol

Mae'r Pwyllgor wedi mynegi siom fawr y bydd Cymru'n cael llawer llai drwy'r Gronfa hon na’r hyn a gâi o dan gynlluniau datblygu economaidd blaenorol. 

Tynnodd Aelodau'r Pwyllgor sylw at dystiolaeth y bydd lefel y cyllid blynyddol a geir drwy'r Gronfa Twf Lleol bron hanner yr hyn gafodd Cymru drwy'r SPF yn 2024–25, a bod hynny’n dwysáu’r her hirdymor o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol a dirywio economaidd.

Rhaid i gyllid gyrraedd y cymunedau sydd ei angen fwyaf

Mae'r adroddiad yn pwysleisio bod yn rhaid i’r Gronfa gael ei chyfeirio at yr ardaloedd sydd ei hangen fwyaf er mwyn iddi fod yn effeithiol, i sicrhau bod adnoddau'n targedu'r heriau mwyaf difrifol mewn cymunedau ledled Cymru. 

Mae'n argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru i dargedu cyllid lle mae ei angen, a dylai roi arwydd clir i'r rhai sy'n darparu cyllid mai dyma’r hyn a ddisgwylir ganddynt. 

Risg o golli swyddi ac arbenigedd

Mae'r adroddiad yn rhybuddio bod y newid o’r SPF a oedd yn seiliedig ar refeniw yn bennaf i Gronfa Twf Lleol sy'n drwm o ran cyfalaf yn peri risg i swyddi crefftus. 

Clywodd y Pwyllgor y gallai'r newid yn y strwythur ariannu arwain at golli arbenigedd hanfodol, gan danseilio'r gallu i gyflawni datblygiad economaidd effeithiol yn y blynyddoedd i ddod. 

Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i nodi sut y mae'n bwriadu gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod cyn lleied o swyddi a sgiliau â phosibl yn cael eu colli wrth i'r Gronfa gael ei gweithredu.

Pryderon ynghylch y defnydd o Gyd-bwyllgorau Corfforedig a’u perfformiad
Mae'r adroddiad yn codi pryderon difrifol ynghylch cynnig Llywodraeth Cymru i Gyd-bwyllgorau Corfforedig weithredu fel y prif gyrff cyflawni rhanbarthol ar gyfer y cyllid. 

Mae gan y Pwyllgor bryderon hirsefydlog ynghylch cyflawniad y Cyd-bwyllgorau o raglenni datblygu economaidd eraill, gan gynnwys nifer ryfeddol o isel y swyddi sydd wedi cael eu creu mewn rhai rhanbarthau.

Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth ddwys i fodelau amgen ar gyfer gweinyddu’r Gronfa yn rhanbarthol cyn rhoi gwedd derfynol ar gynllun cyflawni'r Gronfa Twf Lleol.