Bydd aelodau o Bwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymweld â Phwyllgor Deisebau Senedd Ewrop (PETI) yr wythnos hon, fel rhan o'i adolygiad o'r trefniadau ar gyfer deisebau yn y Cynulliad.
Bydd yr adolygiad yn ystyried sut y gellir gwella'r meini prawf derbynioldeb presennol, y broses ar gyfer ymdrin â deisebau derbyniadwy a sut y gallai fod angen newid Rheolau Sefydlog y Cynulliad a systemau eraill er mwyn cefnogi unrhyw argymhellion newydd.
Bydd Aelodau'r Cynulliad yn cymryd rhan yn sesiwn Pwyllgor Senedd Ewrop ar yr 'Hawl i ddeisebu', ac yn gweld pa wersi y gellid eu dysgu o'i weithdrefnau, cyn cyfarfod â Cecilia Wikström ASE, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, a'i swyddogion.
Dywedodd William Powell AC, Cadeirydd y Pwyllgor:
"Ers 2007, mae tua 900 o ddeisebau wedi'u cyflwyno, ac mae 600 o rai derbyniadwy wedi'u cyfeirio at Bwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
"Rydym yn adolygu ein system yn gyson ac yn gobeithio dysgu mwy yn ystod ein hymweliad am syniadau Senedd Ewrop ynghylch deisebau a sut y mae'n ymdrin â nhw, yn ogystal â'r camau a gymerwyd yn dilyn deisebau a'r broses weithredol ym Mrwsel."
Hwyrach yn yr wythnos, bydd aelodau o Bwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mrwsel hefyd, er mwyn mynd i gyfarfodydd am y Gronfa Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddiadau Strategol, trafnidiaeth, yr argyfwng yng Ngwlad Groeg, yr economi forol, yn ogystal ag ymweld â phencadlys Banc Buddsoddi Ewrop yn Lwcsembwrg am gyfres o gyfarfodydd â swyddogion i drafod cyfleoedd i Gymru o ran buddsoddiadau Banc Buddsoddi Ewrop, gan gynnwys y Gronfa Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddiadau Strategol.