Mae dau o bwyllgorau’r Senedd wedi beirniadu dull Llywodraeth Cymru ar gyfer ymdrin â deddfwriaeth trethi newydd y mae’n ei llywio drwy Senedd Cymru.
Mae’r Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad wedi cyhoeddi adroddiadau sy’n dadansoddi Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) a chwestiynwyd a yw'r pŵer a gynigir yn y Bil yn briodol.
Byddai’r Bil ar ei ffurf bresennol yn rhoi pŵer i Weinidogion Llywodraeth Cymru ddiwygio Deddfau Trethi Cymru yn gyflym drwy ddefnyddio rheoliadau.
Yn hytrach na’r angen i basio 'deddfwriaeth sylfaenol' a rhoi cyfleoedd i Aelodau o'r Senedd ddiwygio a thrafod pob cynnig, byddai’r Bil hwn yn rhoi pŵer i Weinidogion Llywodraeth Cymru newid cyfreithiau trethi Cymru drwy ddefnyddio rheoliadau (math o gyfraith a elwir yn aml yn ‘is-ddeddfwriaeth’) a fyddai ond yn caniatáu i’r Senedd dderbyn neu wrthod y gyfraith newydd. Byddai’r Bil hefyd yn caniatáu i Weinidogion newid y gyfraith ar unwaith, cyn ceisio cymeradwyaeth y Senedd.
Wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor hwn, fe wnaeth Syr Paul Silk, a oedd yn-glerc i’r Cynulliad (Senedd) rhwng 2001 a 2007, fynegi pryder cyffredinol ynghylch y twf yn nefnydd is-ddeddfwriaeth, gan awgrymu y dylai deddfwrfeydd barhau i fod yn amheus ac yn wyliadwrus pan fydd Llywodraethau'n cynnig unrhyw gynnydd i'w pwerau eu hunain i wneud deddfwriaeth na fydd y ddeddfwrfa’n craffu arni’n llawn.
Cododd yr adroddiadau bryderon y byddai’r dull hwn yn gyrru mandad democrataidd y Senedd i’r cyrion, gyda’r ddau Bwyllgor o blaid datblygu pecyn hirdymor o fesurau deddfwriaethol, megis Bil cyllid, i gyflawni cynigion trethi.
Argymhellodd adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y dylid diwygio’r Bil i gynnwys ‘darpariaeth fachlud’, fel y’i gelwir, i sicrhau bod pŵer a roddir i’r Llywodraeth i wneud rheoliadau yn dod i ben yn awtomatig ar ôl Gorffennaf 2027. Byddai hyn yn rhoi digon o amser i Lywodraeth Cymru ddatblygu dull gwell o ddeddfu ar drethi datganoledig.
Cwestiynodd y Pwyllgor Cyllid gyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros geisio gwneud newidiadau ôl-weithredol i gyfreithiau trethi Cymru, o ystyried yr ansicrwydd y byddai hyn yn ei greu yn system drethi Cymru.
Er mwyn diogelu hawliau trethdalwyr, daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod yn rhaid cyfyngu ar wneud newidiadau yn ôl-weithredol o dan rai amgylchiadau, megis peidio â mynd ymhellach yn ôl na dyddiad newid treth y DU neu ddyddiad cyhoeddiad ffurfiol gan Lywodraeth Cymru.
Yn ôl Peredur Owen Griffiths, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid: “Fel y mae, mae mwyafrif y Pwyllgor yn fodlon i’r Bil fynd i’r cyfnod nesaf, ond rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried yr argymhellion yn ein hadroddiad a fydd yn darparu mesurau diogelu pwysig ar gyfer defnyddio’r pŵer newydd hwn.
“Mae datganoli trethi yn ddatblygiad cymharol ddiweddar yng Nghymru ac, wrth i system dreth Cymru aeddfedu, mae'n bwysig bod y Senedd yn fodlon bod datblygiadau yn gymesur ac yn cydymffurfio ag egwyddorion democrataidd.
“Mae gennym amheuon ynghylch dull a ddefnyddir yn y Bil ac rydym yn credu bod yn rhaid i’r Senedd gael y cyfle gorau posibl i graffu a dylanwadu ar gyfreithiau trethi newydd yn hytrach na gadael i Lywodraeth Cymru newid cyfreithiau trethi fel y gwêl yn dda.”
Yn ôl Huw Irranca-Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: “Daeth ein hadroddiad i’r casgliad nad yw’r Bil yn gyfrwng deddfwriaethol priodol i wneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru ac y dylid ei ystyried yn fesur tymor byr, dros dro yn unig.
“Mae’r cyfiawnhad a roddwyd gan y Gweinidog dros y dull gweithredu a gynigir yn annigonol ac mae’r Pwyllgor yn cytuno y byddai’r Bil yn rhoi llawer gormod o bŵer i Weinidogion Cymru ar draul rôl y Senedd.
“Os yw Llywodraeth Cymru yn benderfynol o fwrw ymlaen â’r Bil hwn, mae’r Pwyllgor yn glir y dylai ymateb yn gadarnhaol i’n hargymhellion, yn benodol i gynnwys ‘darpariaeth fachlud’. Byddai hyn yn rhoi amser i Lywodraeth Cymru ddatblygu dulliau mwy priodol o ddefnyddio deddfwriaeth sylfaenol yn hytrach nag is-ddeddfwriaeth.”