Rhai plant yng Nghymru yn cael eu hamddifadu o ran addysg – adroddiad

Cyhoeddwyd 16/07/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/07/2024   |   Amser darllen munudau

Mae nifer sylweddol o blant ledled Cymru yn cael eu hamddifadu o’u hawl i addysg. 

Mae un o bwyllgorau’r Senedd yn dweud bod plant a phobl ifanc ag anableddau neu anghenion dysgu ychwanegol yn cael cam gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar yr adeg fwyaf hanfodol yn eu bywydau.

Clywodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan deuluoedd a all fod wedi blino’n lân o orfod brwydro i gael yr addysg a’r gofal plant y mae gan eu plant hawl i’w cael.

Mae’n galw nawr ar Lywodraeth Cymru i ymateb i’r pum casgliad allweddol a’r 32 argymhelliad a oedd yn deillio o’i ymchwiliad blwyddyn o hyd.

Dywedodd Buffy Williams AS, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg:

“Drwy gydol yr ymchwiliad hwn, clywsom gan rieni a oedd yn ysu am gefnogaeth, ac i gael rhywun i wrando arnynt. Bydd llawer o'r straeon yn aros gyda mi am byth.

“Fydden ni ddim yn gwneud ein gwaith pe na byddem yn clywed eu lleisiau ac yn cyflwyno’r achos cryfaf posibl i Lywodraeth Cymru dros yr hyn sydd angen ei newid – dyna rydyn ni’n ei ddweud yn yr adroddiad hwn. Y strwythur sydd ar fai, nid athrawon na staff gofal plant unigol sy’n gwneud eu gorau glas er gwaetha’r strwythur.”

“Ond ni fydd y darn hwn o waith yn dod i ben gyda hynny. Byddwn yn cadw llygad barcud ar y camau a gymerir a sut y maent yn gwneud gwahaniaeth ar lawr gwlad am weddill cyfnod y Senedd.  

“Ni allwn wneud cam â’n pobl ifanc mwyach. Dim ond un cyfle gewch chi mewn addysg, a dylai hwnnw fod y cyfle gorau posibl.”

Mynediad cyfartal i ysgolion a gofal plant

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth amlwg gan deuluoedd sy’n cael trafferth i gael mynediad at addysg gynhwysol a chymorth gofal plant addas.

Mae gormod o leoliadau prif ffrwd nad ydynt yn diwallu anghenion plant a phobl ifanc, sy’n cael eu trin fel pegiau sgwâr mewn tyllau crwn, heb unrhyw addasiadau’n cael eu gwneud i’w galluogi i gymryd rhan lawn ym mywyd yr ysgol, yn ôl yr adroddiad.

Mewn lleoliadau arbenigol gwelodd y Pwyllgor lawer o arfer da o ran sut mae plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi mewn ffyrdd sy’n datgloi eu galluoedd a’u potensial, ond mae angen rhagor o’r math hwnnw o ddarpariaeth.

Dywedodd Betsan Gower Gallagher, mam gefeilliaid chwech oed ag awtistiaeth, a roddodd dystiolaeth fel a ganlyn i’r Pwyllgor am ei phrofiad:

“Mae’r ymchwiliad hwn mor bwysig i rieni fel fi oherwydd bod fy mhlant yn ddi-eiriau, ond mae hyn yn rhoi llais iddyn nhw.

“Mae gan fy mhlant anghenion hynod gymhleth ond mae'n frwydr ddiddiwedd i gael y gefnogaeth y mae gennym hawl iddi. Mae'n rhaid i ni frwydro a brwydro am hyd yn oed y pethau sylfaenol, fel addysg.

“Ac nid oes unrhyw gymorth gofal plant yn ein hardal a all hwyluso anghenion fy mhlant dros yr haf - hyd yn oed ar gyfer gweithgareddau sy'n cael eu hysbysebu fel rhai cynhwysol nid oes  cyfleusterau digonol i'n cefnogi ni.

“Rydyn ni eisiau gwneud y gorau dros ein plant, mae nhw mor arbennig ac yn llawn llawenydd a chariad - ond rydyn ni wedi blino'n lân o ran system sy’n gweithio yn ein herbyn.”

Argymhellion

Mae’r adroddiad, a gyhoeddir heddiw, yn gwneud 32 o argymhellion penodol ac yn dod i bum casgliad allweddol:

Yn gyntaf, mae nifer sylweddol o hawliau plant a phobl ifanc i addysg, fel y'u nodir yn Erthygl 28 ac Erthygl 29 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, yn cael eu torri yng Nghymru ar hyn o bryd. 

Yn ail, y gall amddifadu plant a phobl ifanc o’r hawliau hyn gael effaith fawr ar eu llesiant emosiynol a meddyliol, yn ogystal â’u hiechyd corfforol, a gall hyn effeithio’n barhaol ar eu cyfleoedd mewn bywyd.

Yn drydydd, daeth yr adroddiad i’r casgliad y gall effaith amddifadu plant a phobl ifanc o’u hawliau i addysg yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer gofal plant cynhwysol gael effaith anfesuradwy ar eu teulu – yn enwedig rhieni, gofalwyr a brodyr a chwiorydd. Dywedodd teuluoedd a roddodd dystiolaeth i'r Pwyllgor fod gorfod brwydro dros hawliau sylfaenol wedi effeithio ar eu hiechyd eu hunain a'u gallu i weithio.

Y pedwerydd casgliad oedd bod y ddarpariaeth anghyson yn arwain at fod loteri cod post ar waith - yn enwedig i'r rhai sydd am gael addysg a gofal plant cyfrwng Cymraeg. Lle mae darpariaeth dda yn bodoli, mae hynny oherwydd bod unigolion yn benderfynol, ac nid o ganlyniad i ddull gweithredu strwythurol.

Pumed casgliad yr adroddiad yw bod y broblem yn cynnwys rhwystrau cymhleth sy’n ymwneud ag agweddau at anabledd a gwahaniaeth yn gyffredinol, ond mae nifer o gamau ymarferol y gellir eu rhoi ar waith.

Mae’r adroddiad llawn ar gael yma.

Mae’r adroddiad cryno ar gael yma

Mae fersiwn hawdd i'w ddarllen ar gael yma.