Sefydlwyd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan y Senedd i graffu ar bolisïau a deddfwriaeth, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn meysydd penodol. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys plant a phobl ifanc; addysg; ac iechyd, gwasanaethau gofal, a gofal cymdeithasol fel y maent yn ymwneud â phlant a phobl ifanc.
Mae gan y Pwyllgor chwe Aelod sy'n dod o'r gwahanol bleidiau sydd â chynrychiolaeth yn y Senedd, ac mae’n cael ei gadeirio gan Jayne Bryant AS. Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor a’i aelodau isod, ynghyd â'r rhestr lawn o'r meysydd y mae'n ymdrin â nhw.