Diweddarwyd ar 15/05/2019
Mae Cadeirydd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol, Llyr Gruffydd AC, wedi gwneud y datganiad canlynol wedi iddi ddod i'r amlwg bod cod treth yr Alban wedi cael ei osod ar rai trethdalwyr yng Nghymru, sy'n golygu eu bod wedi bod yn talu'r gyfradd dreth anghywir.
“Mae cyfaddefiad Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn un siomedig iawn gan fod y Pwyllgor hwn wedi cael sicrwydd dro ar ôl tro na fyddai camgymeriadau fel hyn yn digwydd.
“Fe wnaethom ni fynegi pryderon ynghylch y broses o adnabod trethdalwyr Cymru yn ystod ein hymchwiliadau i ddatganoli cyllidol a chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.
“Bob tro, fe ddywedwyd wrthym eu bod nhw’n delio â’r mater, a’u bod nhw wedi dysgu gwersi yn dilyn problemau tebyg a fu yn ystod datganoli pwerau treth incwm i'r Alban.
“Rydym yn gofyn am eglurhad ar unwaith am sut mae hyn wedi digwydd a byddwn yn gofyn i gynrychiolwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ymddangos gerbron y Pwyllgor hwn yn y dyfodol agos.”
Yn ystod gwaith craffu y Pwyllgor ar weithredu datganoli cyllidol yng Nghymru, mynegodd y Pwyllgor ei rwystredigaeth na fyddai Llywodraeth y DU yn ymddangos gerbron y Pwyllgor – Llywodraeth y DU sy’n atebol am CThEM.
Cafodd Cyfraddau Treth Incwm Cymru ei gyflwyno ym mis Ebrill 2019. Ar gyfer trethdalwyr yng Nghymru, y llythyren 'C' yn eu cod treth sy'n dynodi lle maent yn byw.
Dywedodd CThEM fod y cod cywir wedi cael ei roi i gyflogwyr ond, mewn rhai achosion, roedd y cod ‘S’ wedi cael ei osod, sy'n golygu bod rhai pobl yng Nghymru wedi bod yn talu cyfraddau treth incwm yr Alban.