Rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos arweinyddiaeth gryfach wrth yrru'r newidiadau sydd eu hangen i gefnogi pobl sy’n byw gyda gorbwysau neu gordewdra yng Nghymru, meddai Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd.
Mae 62% o oedolion yng Nghymru yn byw gyda gorbwysau neu ordewdra, ac mae 26% yn byw gyda gordewdra, yn ôl adroddiadau blaenorol . Mae tua 25% o blant yn byw gyda gorbwysau neu ordewdra erbyn iddynt ddechrau'r ysgol.
Fodd bynnag, gall gwir niferoedd gorbwysau neu ordewdra fod hyd yn oed yn uwch. Pe bai Cymru yn cymhwyso'r un addasiadau mesur a ddefnyddir yn Lloegr a'r Alban, gallai'r nifer o oedolion sy'n byw gyda gordewdra fod mor uchel â 34% - yr uchaf yn y DU.
Un o’r heriau iechyd cyhoeddus mwyaf arwyddocaol
“Cydnabyddir mai gordewdra yw un o’r heriau iechyd cyhoeddus mwyaf arwyddocaol, yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae’n ffactor risg allweddol o ran ystod eang o glefydau cronig, gan gynnwys diabetes math 2, clefyd cardiofasgwlaidd, gan gynnwys strôc, a rhai canserau. Mae hefyd yn effeithio ar lesiant pobl, ansawdd eu bywyd, a’u gallu i weithio.
"Mae nifer yr achosion yn cynyddu yng Nghymru, fel mewn mannau eraill, gyda lefelau llawer uwch o ordewdra yn y cymunedau mwyaf difreintiedig," meddai Peter Fox AS, Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd.
"Mae'r gost i'r GIG eisoes yn £73 miliwn y flwyddyn, yn ôl adroddiadau blaenorol, a rhagwelir y bydd hyn yn codi i tua £465 miliwn erbyn 2050. Ni allwn fforddio aros. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu nawr i leihau amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau rheoli pwysau, sicrhau darpariaeth gyson i blant ac oedolion ar draws pob bwrdd iechyd, a mabwysiadu dull ataliol system gyfan sy'n darparu cefnogaeth dosturiol ac urddasol i bobl drwy gydol eu hoes.
"Mae angen data gwell arnom hefyd i ddeall faint o bobl sydd angen cefnogaeth. Heb weithredu ar frys, rydym mewn perygl o esgeuluso cenhedlaeth a rhoi hyd yn oed rhagor o bwysau ar ein gwasanaethau iechyd."
Clywodd y Pwyllgor fod strategaeth Llywodraeth Cymru, Pwysau iach: Cymru Iach i atal a lleihau gordewdra, er gwaethaf ymwybyddiaeth ohoni, wedi methu o ran ei gweithredu. Mae diffyg arweinyddiaeth ac eglurder ynghylch pwy sy'n gyfrifol am ei chyflawni. Mae'r strategaeth yn methu â chyflawni ei huchelgais, gydag amseroedd aros hir o hyd at bum mlynedd ar gyfer rhai gwasanaethau cymorth i oedolion i reoli pwysau, a dim darpariaeth o gwbl i blant a phobl ifanc mewn rhai byrddau iechyd.
Mae'r Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i ddangos arweinyddiaeth gryfach ac atebolrwydd traws-sector dros y strategaeth a chyhoeddi diweddariadau rheolaidd o ran cynnydd.
Mentrau eraill sy'n pontio'r bwlch
Yn absenoldeb gwasanaethau iechyd, mae pobl yn troi at fentrau eraill am gymorth i wella eu hiechyd corfforol a meddyliol. Mae tîm Pêl-droed MAN v FAT yng Nghasnewydd yn rhan o rwydwaith ledled y DU sy'n cefnogi dynion i golli pwysau, bod yn iachach a mwynhau pêl-droed.
"Ers ymuno â'r tîm mae wedi newid fy mywyd yn llwyr," meddai David Quinn, sy’n aelod o grŵp Casnewydd ers chwe blynedd, a bellach yn hyfforddi tîm ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
"Rydw i wedi mynd o fod bron byth yn gadael y tŷ a phwyso dros 200kg, i golli bron i 35% o bwysau fy nghorff, gan golli bron i 70kg o bwysau nawr. Nid yn unig hynny, ers dod yn hyfforddwr, rydw i nawr yn gallu helpu dynion eraill i ddilyn yr un daith."
Cafodd David ei ddenu at y cynllun oherwydd ei gariad at bêl-droed ac mae'n dweud bod diffyg ymwybyddiaeth o wasanaethau.
"Gellid gwneud llawer o waith i gyfeirio pobl tuag at wasanaethau," meddai David.
"Mae mentrau allan yna, ond mae angen iddynt hyrwyddo arferion da a gwneud colli pwysau yn gynaliadwy. Mae'r gymuned yn bwysig hefyd, ac mae'n helpu cymaint gydag iechyd meddwl sy'n mynd law yn llaw."
Mynd i'r afael ag amseroedd aros a lleihau stigma
Ynghyd â diffyg gwasanaethau, mae oedi hir - weithiau hyd at bum mlynedd - yn golygu bod pobl yn colli cymorth hanfodol pan fydd ei angen arnynt fwyaf. Ar yr un pryd, mae stigma mewn lleoliadau gofal iechyd yn gallu atal unigolion rhag ceisio help.
Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn galw am weithredu brys i ehangu gwasanaethau a sicrhau bod gofal tosturiol, anfeirniadol wedi'i ymgorffori ar draws y system.
Dyma rai o argymhellion allweddol eraill adroddiad y Pwyllgor:
- Lleihau amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau rheoli pwysau a sicrhau darpariaeth gyson ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion ar draws pob bwrdd iechyd.
- Mabwysiadu dull integredig i reoli pwysau a ffordd o fyw trwy gydol oes, gan integreiddio cefnogaeth gorfforol, meddyliol ac emosiynol.
- Sicrhau ymyriadau meddygol, gan gynnwys meddyginiaeth colli pwysau, yn cyd-fynd â chanllawiau parhaus ar faeth, gweithgarwch corfforol a newidiadau i ffordd o fyw.
- Gwella cywirdeb data drwy gymhwyso addasiadau i ddata taldra a phwysau hunan-adroddedig, yn unol â dulliau a ddefnyddir mewn gwledydd eraill y DU i adlewyrchu cyfraddau gordewdra yn fwy cywir.
- Hyfforddiant stigma i fynd i'r afael â gwahaniaethu a stereoteipiau negyddol ar draws lleoliadau gofal iechyd. Gall stigma atal pobl rhag ceisio help ac mae angen dull tosturiol o reoli pwysau. Dylai Llywodraeth Cymru gadarnhau a yw hyfforddiant stigma wedi bod ar gael i bob bwrdd iechyd.