Piano

Piano

Rhaid dod o hyd i opsiynau amgen ar ôl cau cyrsiau cerdd a drama

Cyhoeddwyd 29/07/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/07/2024   |   Amser darllen munudau

Yn dilyn y penderfyniad sydyn i gau rhaglenni cerdd a drama ar y penwythnos ar gyfer pobl ifanc yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae Pwyllgor Diwylliant y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu cyfleoedd amgen i bobl ifanc ym maes cerdd a drama.

Dywedodd Delyth Jewell AS, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant y Senedd:

“Cawsom ein siomi’n fawr gan benderfyniad Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i gau ei raglenni cerdd a drama ar y penwythnos ar gyfer pobl ifanc.

“Mae’r cyrsiau hyn wedi bod yn gonglfaen i addysg gelfyddydol, gan chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu ein talent ifanc. Mae cau’r ddau gwrs yn golled enfawr i fyfyrwyr ac i’n tirwedd ddiwylliannol.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i’r nifer fawr o fyfyrwyr a rannodd eu straeon pwerus â’r Pwyllgor. Mae’n amlwg y bydd cau’r cyrsiau hyn yn cael effaith ddofn ar eu bywydau.

“Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn wynebu heriau ariannol difrifol ac mae cynnal cynlluniau fel hyn yn hynod anodd. Fodd bynnag, rydym yn bryderus ynghylch pa mor sydyn y cafodd y penderfyniad i gau’r cyrsiau ei wneud. Mae’n gadael bwlch sylweddol mewn addysg cerdd a drama ac yn creu ansicrwydd i’r staff, y myfyrwyr a’r teuluoedd yr effeithir arnynt.

“Rhaid i’n pobl ifanc beidio â bod o dan anfantais o gymharu â’u cyfoedion mewn rhannau eraill o’r DU a thu hwnt.

“Heddiw, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei gallu i greu cyfleoedd amgen ym maes cerdd a drama, ac i sicrhau llwybrau cynaliadwy i mewn i hyfforddiant proffesiynol yng Nghymru.”

Bydd Pwyllgor Diwylliant y Senedd yn parhau i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar gyllid yn y meysydd hyn cyn cylch nesaf y gyllideb.