Rhaid dysgu gwersi o’r modd y cyflwynwyd y gwasanaeth newydd i gyflenwi ocsigen yn y cartref, a gostiodd £6 miliwn.

Cyhoeddwyd 18/02/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Rhaid dysgu gwersi o’r modd y cyflwynwyd y gwasanaeth newydd i gyflenwi ocsigen yn y cartref, a gostiodd £6 miliwn.

Mae Pwyllgor Archwilio Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi beirniadu’r modd y cafodd gwasanaeth newydd i gyflenwi ocsigen yn y cartref ei gyflwyno.

Daeth yr Aelodau i’r casgliad bod y GIG wedi methu delio’n effeithiol â’r risgiau’n ymwneud â chyflwyno’r gwasanaeth newydd yn 2008 - a gostiodd dros £4 miliwn mwy na’r amcangyfrif gwreiddiol o £2 filiwn.

Dysgodd y Pwyllgor hefyd nad yw manteision bwriadedig y trefniadau newydd wedi’u gwireddu’n llawn hyn yn hyn.  

“Ni wrandawodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyngor y contractiwr newydd a’i argymhelliad cryf i gyflwyno’r contract newydd yn raddol drwy Gymru” dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, David Melding AC.

“Yn ein barn ni, roedd risgiau sylweddol ynghlwm wrth benderfyniad Llywodraeth y Cynulliad i beidio â threialu’r trefniadau newydd, yn enwedig o gofio’u bod yn newid trefniadau hirsefydlog yr oedd cleifion a gweithwyr iechyd proffesiynol yn gyfarwydd â nhw.   

“Ac fe’n syfrdanwyd o glywed mai methiant i gynnwys rhai elfennau pwysig yn y dogfennau  tendro a arweiniodd at y ffaith bod cost y contract wedi treblu yn ôl pob golwg yn ystod y flwyddyn gyntaf.”

Cyflwynwyd y gwasanaeth newydd i integreiddio cyflenwadau ocsigen yn y cartref yng Nghymru a Lloegr ym mis Chwefror, 2006.

Enillodd Air Products PLC y contract i gyflenwi ocsigen yn y cartref yng Nghymru gyfan.

Ychydig ddyddiau ar ôl i’r contract newydd ddechrau, methodd y trefniadau newydd gan nad oedd neb wedi rhagweld y byddai’r galw ar y gwasanaeth yn fwy nag y bu erioed o’r blaen.  

Ar sail adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf y llynedd, bu’r Pwyllgor yn ystyried a lwyddodd y GIG yng Nghymru i ymdrin yn effeithiol â’r broses o gyflwyno’r trefniadau newydd

Dyma brif argymhellion yr adroddiad:

  • dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru adrodd yn ôl i’r Pwyllgor yn amlinellu’r gwersi a ddysgwyd, a sut y mae’r gwersi hyn yn cael eu cymhwyso i newidiadau allweddol eraill yn y gwasanaethau iechyd

  • dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru adrodd yn ôl i’r Pwyllgor yn dangos sut y mae’n bwriadu sicrhau bod cost y gwasanaethau ocsigen yn y cartref yn gostwng, yn ôl y disgwyl

  • dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ymateb i’r pedwar argymhelliad yn adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol fel rhan o’i hymateb i adroddiad y Pwyllgor.