Rhaid hyrwyddo prentisiaethau i fyfyrwyr – un o bwyllgorau’r Senedd

Cyhoeddwyd 31/07/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 31/07/2025

Mae'n rhaid i ysgolion, colegau, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru weithio gyda'i gilydd i gyflwyno prentisiaethau fel dechrau cryf i yrfa, yw’r casgliad gan Bwyllgor Economi'r Senedd.

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan brentisiaid a darparwyr prentisiaethau, ac mae wedi gosod argymhellion i Lywodraeth Cymru helpu pobl i wneud dewisiadau gwell ynglŷn â'u haddysg a'u hyfforddiant yn ei adroddiad diweddaraf, Llwybrau Prentisiaethau.

Mae'r Pwyllgor o'r farn y bydd pobl yn gwella eu sgiliau a’u gallu i ennill bywoliaeth os bydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu ymwybyddiaeth o brentisiaethau ac yn annog mwy o bobl i’w dilyn, gan greu gweithlu mwy cynhyrchiol a rhoi hwb i'r economi.

Dywedodd Matt, a ddilynodd brentisiaeth yng Ngholeg Gŵyr, ac a roddodd dystiolaeth i'r Pwyllgor:

"Ymwybyddiaeth yw’r mater mwyaf. Doedd gen i ddim syniad bod prentisiaethau yn bodoli, at beth maen nhw'n arwain, neu eu bod yn gyfwerth â TGAU. Pan oeddwn i'n ddi-waith, doedd neb yn y ganolfan waith yn sôn amdanynt—ac welais i’r un poster na chlywed amdanynt gan gyflogwyr chwaith.

"Rydw i bellach yn uwch gynorthwyydd gofal iechyd, ac roedd yn rhaid i mi naill ai gael cymhwyster Lefel 3 neu fod yn barod i astudio am un. Er bod uwch reolwyr yn cefnogi hyn, dyw llawer o reolwyr llinell ddim yn deall sut mae prentisiaethau yn gweithio na sut i gefnogi staff yn iawn.

"Mae'r cymwysterau hyn yn ddelfrydol i bobl fel fi sydd wedi gadael yr ysgol heb ddim. Drwy fy mhrentisiaeth yng Ngholeg Gŵyr a chefnogaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, fe wnes i ennill TGAU mewn Mathemateg a Saesneg a sgiliau newydd ar gyfer fy swydd, ac rydw i bellach yn astudio ar gyfer gradd nyrsio. Mae wedi mynd â fi o ddim cymwysterau i'r brifysgol."

Ysgolion ddim yn hyrwyddo prentisiaethau

Clywodd y Pwyllgor nad yw llawer o ddysgwyr yn ymwybodol o lwybrau amgen i gyflogaeth, ac yn mynd ar drywydd astudiaethau academaidd pellach er y gallent fod yn llawer hapusach, yn fwy llwyddiannus ac yn fwy addas ar y llwybr galwedigaethol

Mae'r Pwyllgor wedi gosod nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru ar lwybrau prentisiaethau, gan alw am y canlynol:

  • Ymgysylltu gwell a hyrwyddo prentisiaethau fel llwybr addysg hyfyw i fyfyrwyr. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag ysgolion, colegau a chyflogwyr i gyflwyno cyrsiau galwedigaethol fel opsiwn o safon
  • Cynnydd cyflymach o ran datblygu strategaeth addysg a hyfforddiant galwedigaethol
  • Datrys rhwystrau o ran recriwtio a chadw aseswyr a hyfforddwyr prentisiaethau medrus
  • Ymchwilio i godiadau i dalu am brentisiaethau fel rhan o'r agenda gwaith teg.

Dywedodd Andrew RT Davies AS, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd:

"I lawer o bobl, gall prentisiaethau fod yn ddewis ardderchog. Maen nhw’n cyfuno dysgu ac ennill incwm, gwaith a hyfforddiant. Roedd y prentisiaid a roddodd dystiolaeth yn mwynhau eu cyrsiau ac maen nhw'n gwneud yn dda o ganlyniad.

“Fodd bynnag, clywsom fod llawer o heriau yn wynebu pobl sydd am fwrw prentisiaeth, yn enwedig o ran deall a defnyddio’r system brentisiaethau ei hun. I bobl ifanc, mae’r llwybr academaidd yn glir, ac mae ysgolion yn gweithio'n galed i baratoi’r ffordd i’w myfyrwyr a’u hannog i symud ymlaen i gyrsiau Safon Uwch a gradd, ond nid felly y mae hi gyda phrentisiaethau.

"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag ysgolion, colegau a chyflogwyr i sicrhau y caiff y llwybr prentisiaethau ei hyrwyddo i bawb fel opsiwn o safon, ac sy’n uchel ei barch.

"Mae’r manteision i brentisiaid, cyflogwyr a'r economi yn enfawr os gallwn ni wneud hyn yn iawn yng Nghymru."