Mae angen diogelu cydweithredu diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd yn well rhwng Cymru ac Iwerddon, meddai Pwyllgor Cysylltiadau Rhyngwladol y Senedd.
Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw wedi canfod manteision sylweddol sy’n dwyn ffrwyth yn sgil llawer o brosiectau sy'n gweithio mewn partneriaeth ar draws Môr Iwerddon.
Ond mae gan y Pwyllgor bryderon y gallai’r gwaith da gael ei ddadwneud ar ôl i gyllid yr UE ddod i ben a’r cynllun cydweithredu rhwng y ddwy wlad, sy’n dod i ben yn 2025.
Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Iwerddon i roi sicrwydd ac i addo cyllid y tu hwnt i ddiwedd y cyd-ddatganiad a chynllun gweithredu ar y cyd presennol rhwng Cymru ac Iwerddon.
Dywedodd Delyth Jewell AS, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol:
"Mae'r straeon a’r chwedlau sy’n cysylltu Cymru ac Iwerddon wedi gwrthsefyll prawf amser, yn ogystal â’n perthynas hanesyddol - ac er bod sylfaen y berthynas honno wedi'i hysgwyd gan Brexit, mae ein Pwyllgor wedi dod o hyd i lawer o dystiolaeth o fudd i’r ddwy ochr o’r berthynas barhaus rhwng y cenhedloedd hyn.
"Mae cwestiynau'n parhau, serch hynny, ynglŷn â sut y bydd gwaith ar y cyd rhwng y cenhedloedd yn cael ei ariannu yn y blynyddoedd i ddod. Mae angen eglurder ar y mater hwn, a hynny ar frys - oherwydd byddai'n wirioneddol anffodus pe bai hyn yn gosod unrhyw derfynau, neu’n arwain at unrhyw golled o ran y cysylltiadau agos rhwng y ddwy wlad.
"Ac mae'n ddyletswydd arnom ni i gyd - llywodraethau a seneddau - i wneud mwy i ddiogelu'r berthynas honno.
“Er gwaethaf yr heriau hyn, roedd ein Pwyllgor yn falch o weld yr ewyllys da, yr angerdd a’r brwdfrydedd sylweddol y mae cymaint o bartneriaid yn ei deimlo ynghylch cydweithredu parhaus ar draws Môr Iwerddon. O borthladdoedd i dechnoleg forol, mae atebion ein cenedl i'r argyfyngau mwyaf dybryd sy'n wynebu ein poblogaethau yn dod drwy gydweithio ac arloesi, ac o'n sgyrsiau gyda sefydliadau diwylliannol ac artistiaid, rydym wedi bod yn falch o weld bod y tapestri cyfoethog sy'n plethu ac yn cysylltu ein straeon cenedlaethol mor fywiog ag erioed."
Cyd-ddatganiad a’r cynllun gweithredu ar y cyd
Mae'r adroddiad, Cysylltiadau Cymru-Iwerddon: Archwilio hen berthynas mewn oes newydd, yn edrych ar ddull Llywodraeth Cymru o ymdrin â chysylltiadau ag Iwerddon, fel y nodir mewn dogfen a lofnodwyd gan lywodraethau Cymru ac Iwerddon: Y cyd-ddatganiad a’r cynllun gweithredu ar y cyd ar gyfer y cyfnod 2021-2025.
Canfu’r Pwyllgor gefnogaeth eang i'r cyd-ddatganiad a thystiolaeth o sawl enghraifft o gydweithredu trawsffiniol cadarnhaol ac effeithiol. Roedd y Pwyllgor, fodd bynnag, yn pryderu bod ymwybyddiaeth o'r datganiad yn isel, a bod angen gwneud mwy o waith wrth i gyflwyno'r strategaeth yn glir i randdeiliaid allweddol. Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion i wella tryloywder a dealltwriaeth o'r dull hwn, gan gynnwys y dylai Llywodraeth Cymru gynhyrchu adroddiad blynyddol ar ei chynnydd o ran datblygu cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon.
Mynegodd y Pwyllgor gefnogaeth hefyd i ddefnyddio’r datganiad fel glasbrint ar gyfer cysylltiadau â gwledydd eraill yn y dyfodol – gan gymryd y bydd y materion uchod yn cael sylw.
Ôl-2025
Cafodd yr angen i gynllunio ymhellach na 2025 ei grybwyll gan lawer o'r rhanddeiliaid sy'n gweithio ar draws Môr Iwerddon, gan gynnwys prosiectau sy'n gweithio ar y cyd yn y sectorau gwyddorau bywyd, iechyd a newid hinsawdd.
Dywedodd tystiolaeth gan Gyngor Sir Penfro, sy'n cefnogi nifer o brosiectau a ariennir gan yr UE sy'n gweithio ar y cyd ledled Cymru ac Iwerddon: "...nid oes dim byd sylweddol wedi’i roi ar waith i gymryd ei le ar lefel weithredol [rhaglenni'r UE sy'n dod i ben.]"
“Mae risg, neu hyd yn oed tebygolrwydd, y bydd llawer o’r cydberthnasau sydd wedi’u sefydlu rhwng sefydliadau Cymreig a Gwyddelig trwy’r rhaglen yn dod i ben.
“Mae gwagle bellach yn y berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon ac felly nid yw’n glir o gwbl sut y mae mentrau trawsffiniol yn mynd i weithio, ac eithrio ar fenter sefydliadau unigol yng Nghymru ac yn Iwerddon.”
Mae'r adroddiad yn argymell y dylai llywodraethau Cymru ac Iwerddon ymrwymo cyllid i gysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon y tu hwnt i 2025 heb oedi, i roi sicrwydd i randdeiliaid ac i sicrhau bod costau cyfle yn cael eu lleihau.
Mae'r adroddiad ar gael fan hyn.