Sir Gâr

Sir Gâr

Rhaid i gymorth ffermio fod yn addas ar gyfer y dyfodol

Cyhoeddwyd 27/06/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/06/2024   |   Amser darllen munudau

Gwelwyd newidiadau sylweddol ym myd ffermio ar ôl Brexit, ac mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd yn meddwl bod Llywodraeth Cymru wedi ‘colli cyfle’ drwy beidio â defnyddio ei chynllun Cyswllt Ffermio i roi gwybod i ffermwyr am ei newidiadau.

Heddiw, mae’r Pwyllgor yn amlinellu sut y mae’n credu y dylai’r Llywodraeth ddefnyddio ei chynllun Cyswllt Ffermio i helpu ffermwyr i ddeall a pharatoi ar gyfer y newidiadau yn well.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn amlinellu pryderon ac yn cynnig argymhellion i Lywodraeth Cymru er mwyn gwella gwasanaethau cymorth i ffermwyr yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn adnewyddu’r contract ar gyfer Cyswllt Ffermio. Cynllun i gefnogi ffermwyr yw hwn, a dywed ei fod yn darparu ‘rhaglen trosglwyddo gwybodaeth, arloesedd a gwasanaethau cynghori integredig sydd wedi eu llunio i ddarparu gwell cynaliadwyedd, mwy o gystadleuaeth a pherfformiad amgylcheddol.’

Mae’r Pwyllgor yn galw am wella rhai materion allweddol:

  • Mynediad a chymhwystra - Mae angen i Cyswllt Ffermio sicrhau mynediad gwell i newydd-ddyfodiaid a grwpiau eraill sydd wedi’u hallgáu ar hyn o bryd, gan gynnwys myfyrwyr
  • Cefnogi iechyd meddwl - O ystyried lefelau uchel o orbryder ynghylch yr heriau y mae ffermwyr yn eu hwynebu, ac ansicrwydd y cyfnod pontio y mae’r diwydiant ynddo, dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod gwasanaethau Cyswllt Ffermio yn cefnogi iechyd meddwl ac yn lleihau’r pwysau yn hytrach nag yn ychwanegu atynt. Rhaid i Cyswllt Ffermio nodi a mynd i’r afael â’r materion sy’n achosi gorbryder a straen i ffermwyr
  • Mentoriaid - Rhaid archwilio’n llawn rôl y ffermwyr eu hunain fel mentoriaid ac arbenigwyr
  • Coedwigaeth a choetiroedd - Rhaid i Cyswllt Ffermio gynnwys llawer mwy o arbenigedd ym maes coedwigaeth a rheoli coetiroedd

Dywedodd Paul Davies AS, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd:

“Mae’n adeg hollbwysig i ddyfodol ffermio yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru am wneud newidiadau mawr i’r ffordd y mae cymorth ariannol yn cael ei ddarparu ac, wrth ystyried dyfodol gwasanaethau fel Cyswllt Ffermio, mae’n hollbwysig gwrando ar anghenion ffermwyr a sicrhau bod gwasanaethau cymorth a chynghori yn addas ar gyfer y dyfodol.

“Yn sgil newidiadau ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae pobl ym myd ffermio wedi dweud wrthym fod bylchau yn y cymorth sydd ar gael i helpu ffermwyr i bontio i Gynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

“Ni ellir gorbwysleisio cryfder y teimladau ynghylch y newidiadau hyn. Gwelsom drosom ein hunain niferoedd y ffermwyr sydd wedi bod yn protestio ledled Cymru ac yn y Senedd.

“Clywodd ein hymchwiliad sut y mae Llywodraeth Cymru wedi ‘colli cyfle’ drwy beidio â helpu Cyswllt Ffermio i gyfleu’r cyfeiriad a’r cyfiawnhad dros ei newidiadau i bolisi amaethyddol.

“Rydym wedi gwrando ar arweinwyr ffermio, a heddiw rydym yn cynnig argymhellion i Lywodraeth Cymru er mwyn gwella Cyswllt Ffermio a mynediad at gymorth.”

 


Mwy am y stori hon

Cyswllt Ffermio. Darllenwch yr adroddiad

Ymchwiliad: Cyswllt Ffermio