Rhaid i Gymru fod ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn llygredd plastig

Cyhoeddwyd 10/06/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2019

​Un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw am weithredu brys i leihau llygredd a'r defnydd o blastig.

"Ni all Cymru wastraffu diwrnod arall yn y frwydr yn erbyn llygredd plastig. Rhaid gweithredu nawr".

Dyma gasgliad adroddiad gan Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad Cenedlaethol ar effeithiau llygredd microblastig a phlastig. Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrando ar lais y cyhoedd sy'n mynnu newid, ac i weithredu yn awr drwy gyflwyno cynlluniau uchelgeisiol a newidiadau deddfwriaethol.

Mae'r adroddiad yn nodi canllaw i Lywodraeth Cymru ar gyfer strategaeth 10 mlynedd i leihau'r defnydd o blastig a mynd i'r afael â'r llygredd, gan rybuddio na all Cymru aros i eraill weithredu yn gyntaf.

Mae'r cynlluniau sy'n cael eu hawgrymu yn yr adroddiad yn cynnwys:

  • Cynllun Dychwelyd Ernes, i annog pobl i ddychwelyd eitemau plastig er mwyn eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu
  • Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr i sicrhau bod y cynhyrchydd yn ysgwyddo'r costau o ddelio â'u cynnyrch pan fydd wedi cyrraedd diwedd ei oes
  • Treth ar Ddeunydd Pecynnau Plastig fel cymhelliant ariannol i ddefnyddio plastig sydd wedi ei ailgylchu yn hytrach na chreu rhagor o blastig o'r newydd

"Llygredd plastig yw un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu ein planed. Ni allwn aros mwyach, mae'n bwysig ein bod yn camu ymlaen ac yn arwain lle y gallwn," meddai Mike Hedges AC, Cadeirydd Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad.

"Mewn protestiadau a gorymdeithiau ar draws y byd. Rydym wedi gweld pobl yn erfyn ar lywodraethau i weithredu ar frys. Maen nhw'n sylweddoli, fel rydym ni, ein bod ni yng nghanol argyfwng amgylcheddol. Mae angen newid ar lefel systemig os ydym am ateb yr her hon. Ac mae amser yn brin."

Ar 1 Mai 2019, Cynulliad Cenedlaethol Cymru oedd y senedd gyntaf yn y byd i alw Argyfwng Hinsawdd ac mae materion ynghylch yr amgylchedd bellach yn dylanwadu ar benderfyniadau a pholisïau. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod yn rhoi'r gorau i gynllun lliniaru ffordd yr M4 am ei fod yn rhy niweidiol i'r amgylchedd.

Mae Cymru wedi cael canmoliaeth fel y trydedd gwlad orau yn y byd am ailgylchu sbwriel ac yn 2011, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno tâl am fagiau siopa plastig untro.

Mae'r Pwyllgor yn cytuno heb os fod hyd i gyd i'w ganmol, maen nhw'n credu fod angen i Gymru barhau i arloesi ac i fod yn uchelgeisiol o ran ei chyfrifoldebau amgylcheddol. Mae'n annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau cadarnhaol tebyg, a pheidio ag aros i eraill weithredu'n gyntaf.

"Rydym yn siomedig nad yw Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â maint y broblem," ychwanega cadeirydd y pwyllgor. "Ni ddylem aros am eraill. Mae'r cyhoedd yn gefnogol - rhaid inni fanteisio ar eu hegni a'u brwdfrydedd a chyflwyno polisïau uchelgeisiol a thrawsnewidiol."

Yn ystod yr ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan wyddonwyr a grwpiau amgylcheddol, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, y Gymdeithas Cadwraeth Forol, Cyfeillion y Ddaear, Just One Ocean, Eunomia, Dŵr Cymru a Phrifysgol Plymouth.

 

(Fideo: Julian Kirby o Gyfeillion y Ddaear yn esbonio peryglon microblastigau yn y gadwyn fwyd. Cafodd ei dystiolaeth ei gyflwyno yn Saesneg.) 

Roedd yr ymchwiliad hefyd yn edrych ar effeithiau microblastigau ar ein dyfrffyrdd, ein moroedd a'n pridd. Yn ystod tystiolaeth a gyflwynwyd gan yr Athro Steve Ormerod, Ysgol y Biowyddorau Prifysgol Caerdydd, roedd aelodau'r pwyllgor wedi eu syfrdanu o glywed bod un o bob dau pryfyn yn system yr afon Taf eisoes yn cynnwys microblastigau.

Does dim llawer o wybodaeth ar gael am effaith hyn ar iechyd pobl, ac mae'r adroddiad hefyd yn awgrymu y dylid gwneud rhagor o waith ymchwil i effaith barhaol microplastigion sy'n mynd i'r gadwyn fwyd.

Mae argymhellion pellach yn yr adroddiad yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried cynnwys cynhyrchion eraill - fel cadachau gwlyb sydd ddim yn pydru - ar gyfer ymyrraeth ddeddfwriaethol debyg i'r rhai a orfodir ar microbelenni. Dywed hefyd fod angen rhoi ystyriaeth i'r microblastigau sy'n cael eu rhyddhau yn ystod gweithgaredd pob dydd fel golchi dillad, a'r broblem o golli offer pysgota yn y môr, a all gael effaith ddinistriol ar fywyd y môr.

Mae'r adroddiad yn nodi 12 o argymhellion i gyd, gan gynnwys:

- Dylai Llywodraeth Cymru baratoi a chyhoeddi strategaeth deng mlynedd, gynhwysfawr ac uchelgeisiol gyda'r nod o leihau llygredd plastig. Dylid datblygu'r strategaeth gyda'r rhanddeiliaid a dylai gynnwys targedau a cherrig milltir. Rhaid iddi wneud cysylltiadau clir â meysydd polisi eraill, fel rheoli gwastraff a chaffael "gwyrdd".

- Rhaid i'r strategaeth arfaethedig sicrhau bod polisïau i leihau llygredd plastig yn blaenoriaethu lleihau, yna ailddefnyddio, gydag ailgylchu fel y dewis olaf os na ellir cyflawni'r rhain.

-  Mae angen gwneud mwy o waith ymchwil i fynd i'r afael â bylchau mewn gwybodaeth mewn perthynas â nanoblastigau a microblastigau yn nyfroedd Cymru. Dylai Llywodraeth Cymru archwilio sut y gellir cefnogi ymchwil o'r fath, fel bod y wybodaeth ddiweddaraf yn llywio ei hymyriadau polisi.

- Dylai Llywodraeth Cymru ystyried a ellir cyflwyno deddfwriaeth i gyfyngu mynediad at rai cynhyrchion sy'n cyfrannu at lygredd microblastigau drwy'r llwybrau trin dŵr gwastraff, megis cadachau gwlyb nad ydynt yn fioddiraddiadwy. Dylai ymgymryd â'r gwaith archwilio hwn ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor hwn o fewn y chwe mis nesaf, gan nodi ei barn gychwynnol ar y cynnig hwn.

Bydd yr adroddiad nawr yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru.

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Adroddiad ar bolisïau a chynigion sy’n ymwneud â llygredd plastig a gwastraff deunydd pecynnu (PDF, 592 KB)