Dylai cymunedau lleol elwa mwy o fuddsoddiadau mewn datblygiadau ynni gwyrdd, yn ôl un o bwyllgorau'r Senedd.
Mae adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Bwyllgor Economi y Senedd yn galw am gau bylchau fel bod cymunedau lleol yn elwa – nid cwmnïau sydd ond yn gymwys drwy fod â phencadlys yng Nghymru.
Mae hefyd yn galw am waith brys i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau er mwyn sicrhau bod gweithwyr Cymru'n barod i fanteisio ar gyfleoedd swyddi gwyrdd newydd.
Dywedodd Samuel Kurtz AS, aelod o Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd:
"Mae buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy ac economi werdd ffyniannus yn gyfle sylweddol i Gymru. Yn ogysal â darparu swyddi o safon i Gymry ifanc yn eu cymunedau lleol, mae ganddi'r potensial hefyd i ddenu talent o bob cwr o'r byd.
"Mae'r adroddiad heddiw yn tynnu sylw at yr angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â bylchau yn y diffiniad o brosiectau ynni adnewyddadwy 'o dan berchnogaeth leol', gan sicrhau bod manteision economaidd yn aros yng Nghymru.
"Er mwyn gwneud y mwyaf o'r buddsoddiad hwn, mae'n rhaid i ni sicrhau bod gan Gymru y sgiliau gweithlu angenrheidiol ar gyfer economi'r dyfodol. Mae angen dealltwriaeth glir ar Lywodraeth Cymru o ran lle i gryfhau ein system hyfforddi ac addysg i helpu pobl i baratoi.
"Mae gan Gymru botensial aruthrol i fod yn arweinydd yn y sector ynni adnewyddadwy, ond y cam cyntaf yw i Lywodraeth Cymru wrando a gweithredu ar ein hargymhellion heddiw.”
Bylchau 'lleol'
Mae gan Lywodraeth Cymru darged clir i ddatblygiadau ynni adnewyddadwy fod o dan berchnogaeth leol, ond roedd y Pwyllgor yn pryderu nad yw'r diffiniad o 'berchnogaeh leol' yn ei gwneud yn ofynnol i'r perchnogion fyw'n agos at y prosiect. Mae’n gymwys yn hytrach i gwmnïau sydd â dim ond swyddfa pencadlys yng Nghymru.
Canfu'r ymchwiliad fod datblygiadau ynni adnewyddadwy yn cynnig manteision sylweddol i fusnesau a gweithwyr lleol drwy gyflogaeth uniongyrchol a chreu cadwyni cyflenwi cynaliadwy. Rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod gweithwyr a chontractwyr lleol yn elwa o'r cyfleoedd hyn gyda thargedau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Ynni Cymru a Thrydan Gwyrdd Cymru i gefnogi’r bwriad o ddatblygu ynni cymunedol, ac i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy ar ystâd gyhoeddus Cymru. Bydd y Pwyllgor yn cadw llygad barcud ar sut y mae'r sefydliadau hyn yn cyflawni yn erbyn eu hamcanion.
Sgiliau gwyrdd
Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at 'fwlch sgiliau' yng Nghymru; sy'n golygu bod prinder pobl sydd â'r mathau o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer swyddi ynni gwyrdd.
Er mwyn i economi Cymru ffynnu, roedd y Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i gynnal archwiliad sgiliau, i ganfod pa sgiliau sydd eu hangen a sicrhau bod y systemau addysg a hyfforddiant yn barod ar gyfer cyfleoedd yr economi werdd.
Gyda phoblogaeth hŷn Cymru a 'draen dawn' yn bryderon sefydledig, mae'r Pwyllgor yn pwysleisio’r potensial y gallai economi werdd ffyniannus ei chael i'r wlad.
Gallai diwydiannau gwyrdd llwyddiannus roi'r swyddi i bobl ifanc Cymru aros yn eu cymunedau a gallent hefyd ddenu pobl o fannau eraill i ddod i fyw a gweithio yng Nghymru.