Fferm Ynni Solar

Fferm Ynni Solar

Rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd anghenion seilwaith Cymru yn y dyfodol yn fwy o ddifrif

Cyhoeddwyd 24/04/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/04/2025

Rhaid i Lywodraeth Cymru roi rhagor o flaenoriaeth i gynllunio ar gyfer anghenion seilwaith Cymru yn y dyfodol, a phenderfynu ar ddyfodol y corff a sefydlwyd i’w chynghori ar y gofynion o ran seilwaith, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd. 

Mae adroddiad newydd gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn dod i’r casgliad bod cynllunio ar gyfer prosiectau mawr fel amddiffynfeydd rhag llifogydd a phrosiectau ynni yn cael eu dal yn ôl gan Lywodraeth Cymru. 

Diffyg ymrwymiad 

Mae’r adroddiad, a gyhoeddir heddiw, yn edrych ar sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC), sef corff a grëwyd i edrych tuag at y dyfodol ar heriau mawr o ran y seilwaith.. 

Er gwaethaf hyn, mae Pwyllgor y Senedd yn canfod bod gan Lywodraeth Cymru agwedd “anymrwymol” tuag at y Comisiwn Seilwaith. Mae hyn oherwydd oedi hir wrth ymateb i'w adroddiadau, ac ansicrwydd ynghylch ei gyllideb, sy'n arwain at fod y Pwyllgor yn gofyn a yw Llywodraeth Cymru yn rhoi gwerth ar waith Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru. 

Y llynedd, argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i ymateb yn ffurfiol i unrhyw adroddiad a gyhoeddir gan y Comisiwn Seilwaith o fewn tri mis.  

Er bod Llywodraeth Cymru wedi adolygu sut y dylai weithio gyda’r Comisiwn Seilwaith ni ddaeth i unrhyw gasgliad, fodd bynnag, ynghylch pryd y dylai ymateb i'w argymhellion. Mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn parhau i aros am ymateb i'w adroddiad ar lifogydd, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2024.    

Mae adroddiad y Pwyllgor heddiw yn dweud fod hyn yn anfoddhaol a’i bod yn hen bryd i Lywodraeth Cymru benderfynu ar rôl ac amcanion Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru. Yn ôl y Pwyllgor, dylai hyn hefyd fynd law yn llaw â rhoi rhagor o sicrwydd i’r sefydliad yn ei waith drwy ymestyn ei gyllid ar ôl Etholiad nesaf y Senedd yn 2026.  

Asesu anghenion seilwaith Cymru 

Cafodd y diffyg adnoddau sydd ar gael i’r Comisiwn Seilwaith ei wneud yn amlwg hefyd pan oedd yr adroddiad yn ystyried sut mae sefydliad tebyg yn Seland Newydd, sydd â phoblogaeth o faint tebyg i Gymru, yn cynllunio gwaith seilwaith eu gwlad. 

Cadarnhaodd Comisiwn Seilwaith Seland Newydd fod y gost o gynnal asesiad seilwaith cynhwysfawr tua £2.5 miliwn. Gyda Llywodraeth y DU hefyd wedi gwneud darn o waith tebyg yn ddiweddar, mae Pwyllgor y Senedd yn pryderu y gallai proses gwneud penderfyniadau Llywodraeth Cymru fod yn wannach ac yn fwy costus yn yr hirdymor os na wneir ymdrech debyg yma - er gwaethaf y gost ychwanegol gychwynnol.  

Dywedodd Llŷr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, “Mae’r adroddiad heddiw yn nodi’n glir ei bod hi’n bryd i Lywodraeth Cymru benderfynu a yw am drin Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru o ddifrif ai peidio.  

“Mae’r Comisiwn Seilwaith i fod i gynghori a herio Llywodraeth Cymru ar sut mae'n cynllunio ar gyfer pethau mawr fel addasu i’r newid yn yr hinsawdd, gwella amddiffynfeydd llifogydd a datblygiadau ynni adnewyddadwy.  

“Mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr bod Cymru’n barod ar gyfer heriau’r dyfodol, felly mae wedi bod yn hynod o siomedig gweld bod Llywodraeth Cymru yn dangos ychydig iawn o ddiddordeb yng ngwaith Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.  

“Mae’n bryd i Lywodraeth Cymru gefnogi’r Comisiwn a rhoi’r cymorth sydd ei angen arno i gynnal asesiad o’r seilwaith yng Nghymru – ac ymateb i’w adroddiadau mewn modd amserol fan leiaf.   

“Efallai nad yw heriau o ran seilwaith mawr yr ugain mlynedd nesaf yn ymddangos fel blaenoriaeth ar hyn o bryd, ond os bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddiystyru hyn, trethdalwyr y dyfodol fydd yn talu’r pris.” 

Darllenwch yr adroddiad yma.