“Rhaid i’r setliad datganoli presennol weithio” meddai’r Llywydd

Cyhoeddwyd 25/01/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

“Rhaid i’r setliad datganoli presennol weithio” meddai’r Llywydd

Bydd Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol yn dweud heddiw (dydd Gwener, Ionawr 25) bod yn rhaid sicrhau bod setliad cyfansoddiadol cyfredol y Cynulliad yn gweithio er mwyn symud ymlaen at gam nesaf datganoli.

Bydd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn dweud wrth Aelodau’r Cynulliad a newyddiadurwyr yn swyddfa’r Cynulliad yng Ngogledd Cymru, ym Mae Colwyn, bod gan wleidyddion yng Nghaerdydd a San Steffan gyfrifoldeb i sicrhau y gall y Cynulliad gymryd mantais lwyr o’i bwerau o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru.

Bydd yr Arglwydd Elis-Thomas yn dweud: “’Rwy’n falch o’r modd yr ydym wedi ateb heriau newydd Cyfansoddiad Cymru i lunio cyfreithiau ers mis Mai y llynedd. Yr ydym wedi gweld cyflwyno Mesurau, sy’n cyfateb i Ddeddfau Seneddol, a nifer o Orchmynion Deddfwriaethol arfaethedig, i gael pwerau, gan Weinidogion Cymru a chan Aelodau unigol o’r Cynulliad. Yn anorfod, fel gydag unrhyw gynigion deddfwriaethol, bydd craffu a thrafodaethau a dadleuon ac weithiau anghytundebau yn siwr o ddilyn. Mae hyn wedi digwydd erioed yn San Steffan, a rhaid i ni ddisgwyl y bydd yn digwydd ym Mae Caerdydd hefyd. Dyma yw democratiaeth ar waith.

“Er gwaethaf barn rhai, sy’n teimlo nad oes gennym ddigon o bwerau, neu rai y byddai’n well ganddynt beidio cael datganoli o gwbl, mae arnom ddyletswydd i bobl Cymru i sicrhau bod y system bresennol yn gweithio. Wedi’r cyfan, ‘d yw'n ddim mwy cymhleth na Chyfansoddiad gweddill y Deyrnas Unedig!  Yr ydym am weld cynigion deddfwriaethol yn cael eu cyflwyno, ac mae arnom angen prosesau craffu cadarn ar y cynigion hynny, fel y gallwn wneud cyfreithiau newydd yng Nghymru sy’n addas i’w pwrpas.”

“Yr wyf eisiau’n gweld ni’n cymryd camau tuag at refferendwm ar bwerau llawn ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol, fel sy’n bodoli yn yr Alban, ond dim ond trwy refferendwm sy’n ofynnol gan ein Cyfansoddiad y gallwn gael cydsyniad llawn gan bobl Cymru ar gyfer hynny, os gallwn ddangos ein bod yn defnyddio’r pwerau sydd gennym i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl Cymru. Yn amlwg, mae gennym ni fel Aelodau’r Cynulliad gyfrifoldeb i sicrhau bod hyn yn digwydd, ond fel Aelod o’r Ail Siambr sydd wedi ymwneud mewn materion cyfansoddiadol, rhaid i mi nodi fod gan Aelodau Seneddol ac Arglwyddi yng Nghymru eu cyfrifoldebau hwythau. Nid yw’r rhain yn cynnwys rhagweld amcan neu geisio newid barn y mwyafrif o Aelodau etholedig yn y Cynulliad Cenedlaethol, p ’un ai fod y cynigion ar gyfer deddfwriaeth yn dod gan Weinidogion Cymru,  gan Bwyllgorau’r Cynulliad ynteu gan Aelodau unigol.”

Bydd y Llywydd hefyd yn pwysleisio ymrwymiad y Cynulliad i ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i gyfathrebu gyda phobl Cymru.

“O’r dechrau’n deg yn y Cynulliad, yr ydym wedi ceisio bod mor arloesol ag sy’n bosibl yn y defnydd o dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu.  Mae gennym safle newydd ar y we ac ‘rydym yn awr yn lansio prosiect peilot ar e-ddeisebau, i alluogi pobl i gyflwyno ac arwyddo deisebau i’r Cynulliad ar-lein. Yr ydym eisiau sicrhau bod pobl yn deall rôl y Cynulliad, ei bwerau, a’r gwahaniaeth rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru. Mae angen i adroddiadau a darllediadau gan y cyfryngau fod yn eglur a chywir yn hyn o beth, a dylid defnyddio’r derminoleg gywir i esbonio rôl y ddau gorff wrth ddarllenwyr, gwylwyr a gwrandawyr.”

Nodyn i Olygyddion: Mae Cyfansoddiad Cymru wedi’i nodi yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006, fel y disgrifir gan Ail Adroddiad 2007-8 ar y Cyfansoddiad gan Bwyllgor Dethol Ty’r Arglwyddi: “mae Deddf 2006, i bob pwrpas, yn gyfansoddiad ysgrifenedig ar gyfer Cymru.”