Rhaid i Trafnidiaeth Cymru roi cwsmeriaid wrth wraidd ei wasanaethau

Cyhoeddwyd 01/05/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/05/2019

Mae angen i Trafnidiaeth Cymru (TrC) fod yn llawer mwy gweithredol wrth ymgysylltu â'i gwsmeriaid ar draws y wlad ac ymateb i'w safbwyntiau, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi bod yn edrych ar rolau a chyfrifoldebau TrC. Daeth i'r casgliad, er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud ynghylch casglu safbwyntiau rhanddeiliaid, nad oes digon o wybodaeth gyffredinol am y sefydliad ar gael i'r cyhoedd a'i bod yn anodd dod o hyd i‘r hynny o wybodaeth sydd ar gael.

Canfu'r Pwyllgor hefyd fod TrC yn gweithredu mewn ffordd adweithiol o ran cyfathrebu, yn hytrach na bod yn rhagweithiol.

Cwmni dielw sy’n gyfan gwbl eiddo i Lywodraeth Cymru yw Trafnidiaeth Cymru, ac mae'n gyfrifol am wireddu ei weledigaeth ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru. Mae'n rheoli masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau ond mae hefyd yn gyfrifol am ddarparu “r[h]wydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch” yn unol â strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb' Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Russell George AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

“Roedd y dystiolaeth yn ddiamwys - mae trafnidiaeth yn bennaf oll yn ymwneud ag anghenion y defnyddiwr, a rhaid i drefniadau llywodraethu TrC yn y dyfodol adlewyrchu hyn.

“Mae hefyd yn hanfodol bod swyddogaethau polisi iechyd, addysg, tai a chynllunio defnydd tir yn cael eu hintegreiddio i benderfyniadau, er mwyn darparu rhwydwaith trafnidiaeth integredig yn llwyddiannus.”

Canfu'r Pwyllgor fod y gwahaniad rhwng TrC a Llywodraeth Cymru yn aneglur, gan arwain at ddryswch ynghylch rolau'r naill sefydliad neu'r llall.

Roedd yn ymddangos bod TrC yn gyfrifol, mewn rhai meysydd, am ddatblygu polisi ar ran Llywodraeth Cymru, a darparu gwasanaethau hefyd.

Daeth y Pwyllgor i'r casgliad bod yr angen am fwy o dryloywder ynghylch rôl TrC yn hanfodol wrth i'r sefydliad barhau i ddatblygu. Dywedodd Russell George y canlynol:

“Y prif safbwynt yw nad oes eglurder ynghylch lle y mae Trafnidiaeth Cymru yn dod i ben a Llywodraeth Cymru yn dechrau, a lle y mae'r cyfrifoldebau amrywiol.

“Er ein bod yn derbyn bod Trafnidiaeth Cymru yn sefydliad newydd sy'n datblygu, ac sydd wedi canolbwyntio, hyd yn hyn, ar ddarparu'r fasnachfraint rheilffyrdd newydd yn llwyddiannus, ni all y diffyg eglurder hwn barhau'n llawer hwy.”

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 13 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys y canlynol:

  • Rhaid i Trafnidiaeth Cymru ddangos ymrwymiad cryfach i ddiwallu anghenion cwsmeriaid a gwella profiad teithwyr: rhaid iddo ddefnyddio ystod eang o fecanweithiau, yn ffurfiol ac yn anffurfiol, i ymgynghori ac ymgysylltu â rhanddeiliaid a theithwyr. Dylai Trafnidiaeth Cymru ddatblygu a chyhoeddi cynllun cyfathrebu ac ymgysylltu cynhwysfawr sy'n nodi ei ymagwedd ac yn nodi'n glir pa safonau y gall rhanddeiliaid a'r cyhoedd eu disgwyl;

  • Rhaid i Trafnidiaeth Cymru symud yn gyflym i sefydlu grŵp cynghori ffurfiol i'w alluogi i ymgysylltu â chyrff rhanddeiliaid a gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd o gyfrifoldebau a swyddogaethau Trafnidiaeth Cymru, a'r llinellau atebolrwydd ar gyfer yr holl swyddogaethau trafnidiaeth amrywiol yng Nghymru;

  • Mae'n anodd argymell ar ba ffurf y dylai'r corff trafnidiaeth fod hyd nes bod eglurder ynghylch ei swyddogaethau, ac mae wedi datblygu i'r pwynt lle mae'n barod i gyflawni'r swyddogaethau ychwanegol hynny. Mae angen i Lywodraeth Cymru benderfynu beth y mae am i Trafnidiaeth Cymru ei gyflawni cyn cytuno ar fodel llywodraethu penodol. Wrth wneud hynny, rhaid iddo ddiffinio cylch gorchwyl Trafnidiaeth Cymru yn glir, a datrys y tensiynau a grëir yn sgil bod â rolau o ran datblygu a chyflwyno polisi.

Bydd yr adroddiad bellach yn cael ei drafod gan Lywodraeth Cymru.

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Datblygu Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol (PDF, 960 KB)