Rhaid ymgynghori â phlant Cymru ynghylch mannau diogel i chwarae, meddai adroddiad pwyllgor

Cyhoeddwyd 23/11/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Rhaid ymgynghori a phlant Cymru ynghylch mannau diogel i chwarae, meddai adroddiad pwyllgor

23 Tachwedd 2010

Mae angen rhoi mwy o lais i blant a phobl ifanc ar gyfleusterau chwarae yng Nghymru, yn ol adroddiad newydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Canfu ymchwiliad gan y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc bod eu cynnwys mewn prosiectau a rhaglenni o’r cychwyn yn darparu gwybodaeth werthfawr ac wedi helpu chwalu’r rhwystrau rhwng y cenedlaethau, lle, yn y gorffennol, bu teimlad o ansicrwydd neu hyd yn oed ofn.

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am nifer o brosiectau arloesol a gwerthfawr mewn cymunedau ledled Cymru, a rhai ohonynt a chyfranogiad a chefnogaeth asiantaethau Llywodraeth Cymru fel Cymunedau yn Gyntaf.

Cafwyd enghreifftiau hefyd lle roedd cymunedau wedi gweithio gydag awdurdodau lleol a sefydliadau fel y Gronfa Loteri Fawr a Gweithredu dros Blant.

Ym mhob achos, cafwyd tystiolaeth am bwysigrwydd cyfleusterau chwarae diogel a hygyrch i blant a phobl ifanc eu defnyddio, a’r manteision y gall y cyfleusterau a’r gwasanaethau hynny eu cael ar gyfer y gymuned ehangach.

Rhaid ymgynghori a phlant Cymru ynghylch mannau diogel i chwarae, meddai adroddiad pwyllgor from Assembly Wales / Cynulliad Cymru on Vimeo.

Dywedodd Helen Mary Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc: “Mae’r adroddiad hwn yn dangos nifer o bethau, yn enwedig bod cynnwys ein cenhedlaeth iau mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt yn uniongyrchol yn rhoi ymdeimlad o berchnogaeth iddynt. Mae hefyd yn golygu ein bod yn deall, o bosibl, pethau nad oeddem yn eu deall o’r blaen.

“Roedd yr holl holiaduron a gawsom gan blant a phobl ifanc, a’r holl gyngor a’r dystiolaeth a gawsom gan amrywiaeth o randdeiliaid, yn dangos nid yn unig yr angen am ardaloedd diogel i chwarae, ond hefyd bod angen iddynt fod yn ddiogel ac wedi’u lleoli mewn safleoedd synhwyrol.

“Rydym yn byw mewn cyfnod o gyfyngu ariannol, ac mae’n bosibl nad yw sicrhau cyfleusterau chwarae i blant yn flaenoriaeth, ond rhaid sylweddoli mor werthfawr yw cyfleusterau o’r fath. Rwyf yn annog Llywodraeth Cymru i roi sylw i argymhellion yr adroddiad hwn.