Rhoi diwedd ar y loteri cod post mewn perthynas â ffioedd am ofal cartref – mynegwch farn ar ddeddfwriaeth arfaethedig newydd

Cyhoeddwyd 08/07/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Rhoi diwedd ar y loteri cod post mewn perthynas â ffioedd am ofal cartref – mynegwch farn ar ddeddfwriaeth arfaethedig newydd

Mae Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd yn craffu ar Fesur arfaethedig y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch Ffioedd am Ofal Cymdeithasol.

Fe’i cyflwynwyd gan Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, ar 29 Mehefin.

Bydd y ddeddfwriaeth arfaethedig newydd yn cyflwyno system newydd ar gyfer ffioedd a fydd yn sicrhau bod cynghorau lleol ar draws Cymru’n mabwysiadu dull mwy cyson o godi ffioedd am wasanaethau gofal cartref.

Mae Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 yn awr am glywed barn yr holl randdeiliaid am y Mesur arfaethedig, yn cynnwys y rhai sy’n cael y gwasanaethau gofal, y sefydliadau sy’n eu cynrychioli, ac awdurdodau lleol.

Mae hwn yn fater sy’n effeithio ar nifer o bobl ledled Cymru,” meddai Mark Isherwood AC, Cadeirydd y Pwyllgor.

Mae 32,000 o bobl yng Nghymru ar hyn o bryd yn cael gwasanaethau gofal yn y gymuned y gellid codi ffioedd amdanynt. Mae’n bwysig ein bod yn clywed barn y rhai y bydd y Mesur arfaethedig yn effeithio arnynt – y rhai sy’n cyflenwi’r gwasanaethau a’r rhai sy’n eu cael. Bydd yn galluogi Gweinidogion Cymru i nodi pa fath o wasanaethau a phobl sy’n cael y gwasanaethau gofal cymdeithasol a ddylai gael eu heithrio o’r ffioedd, a phennu ffioedd safonol neu phennu uchafswm ar y ffioedd.”

Gellir gweld manylion llawn am yr ymgynghoriad cyhoeddus, copi o’r Mesur a gwybodaeth bellach yn ei gylch, ar wefan y Pwyllgor (gweler y Memorandwm Esboniadol):

http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/business-legislation-measures-scc-2.htm

Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad yw 28 Awst 2009. Efallai na fydd yn bosibl ystyried ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohono at apslegislationcommitteeNo5@wales.gsi.gov.uk gan roi Ymgynghoriad – y Mesur Arfaethedig ynghylch Ffioedd am Ofal Cymdeithasol” yn deitl i’r neges,

Neu gallwch ysgrifennu at:

Olga Lewis, Dirprwy Glerc y Pwyllgor, y Swyddfa Ddeddfwriaeth, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.

Bydd y Pwyllgor yn cynnal ei sesiwn dystiolaeth gyntaf ar 14 Gorffennaf pan fydd yn clywed tystiolaeth gan Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog. Bydd y Pwyllgor yn gwrando ar ragor o dystiolaeth gan dystion yn ystod tymor yr hydref.