Mewn moment hanesyddol, mae Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi enwi'r 60 aelod o Senedd Ieuenctid Cymru gyntaf.
Yn dilyn ymgyrch etholiadol a barhaodd am dair wythnos ar draws y wlad, gwnaeth y Llywydd y cyhoeddiad gerbron Aelodau'r Cynulliad yn ystod y Cyfarfod Llawn yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mercher, 5 Rhagfyr 2018.
Bydd Senedd Ieuenctid Cymru yn rhoi llais pwerus i blant a phobl ifanc ar draws Cymru ar faterion sy'n effeithio ar eu bywydau drwy weithio ochr yn ochr â Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
Ymladdodd mwy na 480 o ymgeiswyr 40 o seddi etholaethol yng Nghymru, gan roi dewis gwirioneddol i bobl rhwng 11 a 18 oed ynghylch pwy fyddai'n eu cynrychioli.
Mae 20 o ymgeiswyr eraill wedi'u hethol gan sefydliadau partner i adlewyrchu cyfansoddiad Cymru a sicrhau y caiff grwpiau amrywiol o bobl ifanc eu cynrychioli.
Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn ystod y Cyfarfod Llawn:
“Mae heddiw yn nodi achlysur arbennig yn hanes ein Cynulliad Cenedlaethol.
“Wrth edrych ymlaen at ddathlu ugain mlynedd ers creu senedd i Gymru y flwyddyn nesaf, rwy'n falch o gyhoeddi bod y lle hwn ar fin dod yn gartref i senedd gyffrous arall - ein Senedd Ieuenctid gyntaf erioed.
Dyma benllanw misoedd lawer o waith gan sefydliadau, ysgolion, a thîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc pwrpasol y Cynulliad, ac mae'n ddyled enfawr i bawb a sicrhaodd fod y prosiect arloesol hwn yn ffynnu.
“Dyma gyfle euraidd i rymuso'r genhedlaeth nesaf ac rwy'n hyderus y bydd y grŵp hwn yn hyrwyddwyr gwych ar gyfer y materion sy'n bwysig i bobl ifanc Cymru heddiw.”
Roedd unrhyw un rhwng 11 a 18 oed a oedd yn byw yng Nghymru yn gymwys i bleidleisio, gyda mwy na 25,000 yn cofrestru i wneud hynny. Roedd gan y pleidleiswyr dair wythnos ym mis Tachwedd i fwrw eu pleidlais yn electronig. Cafodd pob pleidleisiwr cofrestredig god unigryw i gofnodi ei ddewis.
Credir mai dyma'r tro cyntaf i system bleidleisio electronig gael ei defnyddio mewn etholiad agoriadol yn y DU.
Bydd holl Aelodau'r Senedd Ieuenctid yn gwasanaethu tymor dwy flynedd. Bydd yn grymuso pobl ifanc i nodi a thrafod y materion sydd o bwys iddynt a chodi ymwybyddiaeth ohonynt.
Mae aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn amhleidiol ac ni ddylent berthyn i'r un blaid.
Ar hyn o bryd, mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal arolwg sy'n rhoi'r cyfle i bobl ifanc ddweud pa faterion y dylai Senedd Ieuenctid Cymru gyntaf eu hystyried.
Bydd Senedd Ieuenctid Cymru yn cyfarfod am y tro cyntaf ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf.