Ni ddylid codi tâl am gael mynediad at hanes mwyngloddio glo yng Nghymru, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd.
Mae adroddiad y Pwyllgor Diwylliant ar godi tâl am arddangosfeydd yn gofyn i Lywodraeth Cymru ariannu Amgueddfa Cymru i raddau digonol, fel y gall teithiau tanddaearol yn Amgueddfa Lofaol Cymru (Big Pit) fod yn rhad ac am ddim.
Mae cyfnod o dreialu codi tâl, sydd wedi bod ar waith ers mis Ebrill, wedi gosod pris y tocyn ar £8 y pen – neu'n rhatach ar y diwrnod neu gyda gostyngiadau.
Mae'n dilyn adroddiad blaenorol y Pwyllgor a ddangosodd, ar ôl degawd o doriadau cyllid, fod Cymru wedi gwario'r swm lleiaf namyn un fesul person ar ddiwylliant o'i gymharu â gwledydd Ewropeaidd eraill.
Dywedodd Delyth Jewell AS, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol:
“Mae mynediad am ddim i amgueddfeydd cenedlaethol wedi bod yn bolisi llwyddiannus, ac rydym am ei weld yn parhau – fel mater o egwyddor, ni ddylai neb orfod talu i fwynhau casgliadau sy’n eiddo i bobl Cymru.
“Fel ceidwaid hanes ein cenedl, mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i ariannu ein sefydliadau cenedlaethol yn ddigonol, fel y gallant fforddio darparu mynediad am ddim i bawb.
“Ni fu’n diwallu’r cyfrifoldeb hwn.
“Dros ddegawd, mae Llywodraeth Cymru wedi torri cyllid cyhoeddus ar gyfer diwylliant yng Nghymru i’r graddau ei fod yn un o’r lefelau isaf yn Ewrop. Gwnaeth gweinidogion awgrymu, hyd yn oed, fod codi tâl am fynediad i amgueddfeydd yn rhywbeth sydd o dan ystyriaeth.
“Mae rhywfaint o gynnydd i’w groesawu wedi bod o ran diwylliant yn y gyllideb ddiweddaraf, ond nid yw’n cuddio’r toriad mewn termau real mewn cyllid y mae’r sector wedi gorfod ei ddioddef, ac nid yw Llywodraeth Cymru wedi dod o hyd i ffordd, hyd yn hyn, o ddarparu cyllid cynaliadwy sy’n cydnabod gwerth ein diwylliant.”
Mae Amgueddfa Lofaol Cymru ym Mlaenafon, Torfaen, yn un o’r saith amgueddfa o dan adain Amgueddfa Cymru. Mae'n cynnig teithiau tanddaearol dan arweiniad cyn-lowyr fel y gall ymwelwyr archwilio'r siafftiau a'r peiriannau gwreiddiol.
O fis Ebrill 2025 i fis Gorffennaf 2026, rhaid prynu tocynnau ymlaen llaw ar gyfer y daith danddaearol yn Amgueddfa Lofaol Cymru, am £8 y pen. Mae tocynnau cyfyngedig ar gael ar y diwrnod am £5. Mae tocynnau consesiwn ar gael heb yr angen i ddangos tystiolaeth.
Mae'r Pwyllgor yn nodi bod y rhan fwyaf o ymwelwyr yn hapus â'r swm a dalwyd ganddynt – ond fel mater o egwyddor, yn argymell y dylai teithiau tanddaearol barhau i fod yn rhad ac am ddim.
Roedd pedwar argymhelliad arall yn yr adroddiad, gan gynnwys na ddylai incwm o arddangosfeydd dros dro ddisodli'r angen am gyllid cyhoeddus digonol ar gyfer amgueddfeydd, ac y dylai Llywodraeth Cymru archwilio ffyrdd o helpu sefydliadau i gynnal mwy o arddangosfeydd dros dro i wella'r ystod o arddangosfeydd sydd ar gael.