Rhwydwaith rheilffyrdd ysgafn y Cymoedd yn destun ail Ddadl gan Aelod Unigol

Cyhoeddwyd 28/11/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Rhwydwaith rheilffyrdd ysgafn y Cymoedd yn destun ail Ddadl gan Aelod Unigol

28 Tachwedd 2011

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn trafod gwelliannau i rwydwaith rheilffyrdd y Cymoedd ddydd Mercher 7 Rhagfyr.

Dyma’r ail Ddadl gan Aelod Unigol i ddod gerbron y Cynulliad, ac mae’n manteisio ar fwriad Rosemary Butler AC, y Llywydd i wneud busnes y Cynulliad yn fwy ymatebol i faterion cyfoes ac yn fwy hygyrch i Aelodau nad ydynt yn rhan o’r Llywodraeth, a’u hetholwyr.

Mae’r cynnig, a gyflwynwyd gan 11 Aelod Cynulliad, yn galw ar y Cynulliad i groesawu’r gefnogaeth ar gyfer system teithio cyflym integredig ar gyfer y Cymoedd, yn seiliedig ar rwydwaith rheilffyrdd y Cymoedd; tebyg iawn i’r systemau Metro mewn dinasoedd ym mhob cwr o’r byd.

Mae’r cynnig hefyd yn cydnabod nad yw trydaneiddio rhwydwaith rheilffyrdd y Cymoedd wedi’i ddatganoli, a bod hynny’n rhagofyniad ar gyfer datblygu system fetro.

Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, “Mae Dadleuon gan Aelodau Unigol yn caniatáu i Aelodau gyflwyno materion lleol neu ranbarthol sylweddol neu sydd o bwys.

“Maent yn gyfle i Aelodau nad ydynt yn y Llywodraeth godi materion sydd o bwys iddynt hwy a’r cymunedau a wasanaethir ganddynt. Maent hefyd yn adlewyrchu sut rydym yn agor y drws i fusnes y Cynulliad er mwyn ei wneud yn fwy ymatebol a hygyrch.

“Mae’r rhain yn wahanol i’r broses Dadl Fer gan y bydd yr Aelodau yn cyflwyno cynnig y bydd yr holl Aelodau wedyn yn pleidleisio arno.

“Bydd hyn yn rhoi cyfle i Aelodau mewn Cyfarfod Llawn gyflwyno eu cynigion eu hunain sydd wedi ennyn cefnogaeth Aelodau o bleidiau eraill.

Geiriad llawn y ddadl Aelod Unigol yw:

Mick Antoniw (Pontypridd)

Nick Ramsay (Mynwy)

Lindsey Whittle (Dwyrain De Cymru)

Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Byron Davies (Gorllewin De Cymru)

Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)

Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Keith Davies (Llanelli)

Christine Chapman (Cwm Cynon)

Lynne Neagle (Tor-faen)

Eluned Parrott (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu’r ystod eang o gefnogaeth, gan gynnwys gan Lywodraeth Cymru, ar gyfer system teithio cyflym integredig (metro) yn seiliedig ar rwydwaith rheilffyrdd y cymoedd;

2. Yn cydnabod nad yw trydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd wedi’i ddatganoli a bod hynny’n rhagofyniad ar gyfer datblygu’r metro; a

3. Yn cydnabod y bydd y cyd-destun ariannol presennol, ynghyd â diffyg pwerau benthyca Llywodraeth Cymru, yn golygu y bydd y prosiect yn symud yn ei flaen bob yn dipyn ac y bydd yn galw am ddull cydweithredol wedi’i gydlynu gan Lywodraeth Cymru.

Cefnogir gan:

Julie James (Gorllewin Abertawe)

Mae’r system yn gweithio fel a ganlyn:

  • Caiff Aelodau unigol gyflwyno cynnig, a rhaid iddo gael ei gefnogi gan o leiaf ddau Aelod arall o ddwy blaid wahanol.

  • Caiff Aelodau gyflwyno cynnig ar y cyd a chânt ofyn am gefnogaeth Aelodau eraill ar ôl iddynt gyflwyno’r cynnig;

  • Bydd y Pwyllgor Busnes yn ystyried y cynigion sy’n cyflawni’r gofynion hyn ac yna yn hysbysu’r Aelod(au) y mae ei gynnig wedi’i ddethol a’r dyddiad y bydd yn digwydd.

Gellir gweld Agenda Cyfarfod Llawn dydd Mercher, 7 Rhagfyr yma.