Safle Tirlenwi’r Hafod: Methiant i gydnabod realiti niwsans arogl

Cyhoeddwyd 22/01/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/01/2026   |   Amser darllen munudau

Mae ymchwiliad i broblemau yn Safle Tirlenwi’r Hafod ger Wrecsam wedi datgelu methiant atebolrwydd - lle mae cydymffurfiaeth dechnegol yn cael blaenoriaeth dros realiti dyddiol pobl sydd wedi bod yn dioddef blynyddoedd o niwsans arogl, meddai Pwyllgor Deisebau’r Senedd.

Daeth y Pwyllgor i’r casgliad, er bod gwaith monitro rheolaidd yn cael ei gynnal yn y safle tirlenwi ger Johnstown, fod bwlch clir rhwng yr hyn y mae mesuriadau gwyddonol yn ei ystyried yn dderbyniol a phrofiad byw cymdogion.

Clywodd ymchwiliad byr y Pwyllgor, a gafodd ei ysgogi gan ddeiseb â 1,125 o lofnodion, sut, ers bron i ddau ddegawd, mae trigolion wedi adrodd am eu gofid yn sgil arogleuon parhaus, gan ddisgrifio effeithiau ar fywyd bob dydd a lles. Dywedodd teuluoedd nad ydyn nhw’n gallu agor ffenestri, mwynhau eu gerddi, na gadael i blant chwarae y tu allan. Mae rhai yn adrodd bod yr arogl yn waeth ar ôl glaw, gan ychwanegu at ofnau ynghylch dod i gysylltiad hirdymor â’r arogl ac ansawdd bywyd.

Er bod data monitro yn awgrymu bod risgiau iechyd yn isel, mae'r Pwyllgor yn nodi bod lefelau niwsans yn parhau i fod yn annerbyniol ac nad oes unrhyw ymddiriedaeth rhwng y gymuned, y rheoleiddwyr a'r gweithredwr.

Dywedodd Carolyn Thomas AS, Cadeirydd Pwyllgor Deisebau y Senedd:

“Ni ddylai unrhyw gymuned orfod dioddef amodau fel y rhai sydd wedi cael ein disgrifio i ni. Rydym yn edmygu’n fawr dyfalbarhad yr ymgyrchwyr sydd wedi ymladd dros newid er gwaethaf blynyddoedd o rwystredigaeth. Mae eu dyfalbarhad wedi sicrhau na ellid anwybyddu'r mater hwn.

“Rhaid i Weinidogion Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, a Chyngor Wrecsam weithredu ar ein hargymhellion i gryfhau gwaith monitro, gwella cyfathrebu, ac ail feithrin ymddiriedaeth gyda’r gymuned.

“Mae angen i bobl deimlo bod eu lleisiau’n cael eu clywed a’u pryderon yn cael eu cymryd o ddifrif ac mae deisebau’r Senedd yn ffordd hanfodol i bobl godi materion sy’n bwysig iddyn nhw. Er na all y Pwyllgor roi cyfarwyddyd i gau'r safle, rydym wedi gallu rhoi lleisiau preswylwyr ar gofnod, dwyn rheoleiddwyr a'r gweithredwr i gyfrif, a thaflu goleuni ar broblemau sydd wedi parhau am gyfnod rhy hir.

“Ers i’n hymchwiliad ddechrau, mae ymdrechion i ddatrys y problemau arogl wedi dwysáu. Mae Aelodau o’r Senedd eisiau gweld y momentwm hwnnw’n cael ei gynnal, gyda gwelliannau pendant i fywydau pobl sy’n cael eu heffeithio gan safleoedd tirlenwi.”

Mae’r adroddiad yn gwneud 10 o argymhellion, gan gynnwys:

  • Monitro arogleuon awtomataidd gorfodol mewn safleoedd tirlenwi ledled Cymru.
  • Hyfforddiant gwell i reoleiddwyr sy’n cynnal asesiadau arogl.
  • Cyfathrebu cliriach gan awdurdodau lleol ynghylch camau gorfodi.
  • Ymchwiliad i wydnwch hinsawdd a’r cysylltiad rhwng glawiad ac allyriadau arogl.

Mae'r Pwyllgor yn annog Gweinidogion Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru i weithredu ar ei ganfyddiadau a sicrhau bod mesurau cadarn yn parhau i fod ar waith.

Mwy am y stori yma

Darllenwch am waith y Pwyllgor ar y mater