Gallai Cymru wynebu degawdau o oedi wrth gwblhau ei rhwydwaith teithio llesol oni bai bod awdurdodau lleol yn cael eu cefnogi i weithio gyda'i gilydd yn rhanbarthol.
Dywed adroddiad newydd gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd y bu’r cynnydd yn "boenus o araf", ac mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gyllid hirdymor, arweinyddiaeth gryfach, a ffocws o'r newydd ar newid ymddygiad a chynhwysiant.
Targed Llywodraeth Cymru yw i 45% o deithiau fod drwy foddau cynaliadwy erbyn 2040, ond mae'r Pwyllgor yn rhybuddio na chaiff hyn ei gyflawni heb gydgysylltu ar lefel ranbarthol.
Cynllunio ar draws rhanbarthau
Mae'r adroddiad yn nodi nad oes gan lawer o awdurdodau lleol y capasiti a'r arbenigedd i gyflwyno teithio llesol yn effeithiol. Mae'n argymell dull rhanbarthol, gan symud o awdurdodau lleol unigol i gynllunio cydgysylltiedig ar draws rhanbarthau, dan arweiniad y Cyd-bwyllgorau Corfforedig, y Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol a Trafnidiaeth Cymru.
Bydd gan Trafnidiaeth Cymru (TrC) rôl ganolog o ran gwneud i’r dull rhanbarthol weithio, yn ôl y Pwyllgor. Yn ogystal â chynnig arbenigedd technegol, gall TrC hefyd sicrhau dyluniad cyson ac integreiddio teithio llesol â chynlluniau trafnidiaeth ehangach.
Newid ymddygiad a chynhwysiant
Nid adeiladu llwybrau yn unig fydd yn newid arferion. Er mwyn cyflawni hyn, bydd angen rhaglen effeithiol ac ystyrlon ar lefel genedlaethol er mwyn newid ymddygiad mewn ffordd a fydd yn perswadio pobl i adael y car gartref ar gyfer teithiau bob dydd. Llywodraeth Cymru ddylai arwain y rhaglen hon, wedi'i chynllunio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid a phartneriaid cyflawni, yn enwedig cymunedau lleol, er mwyn iddi fod mor effeithiol â phosibl.
Mae cynhwysiant hefyd yn ganolog i lwyddiant. Mae llawer o lwybrau presennol yn parhau i fod yn anhygyrch i bobl anabl a hŷn, ac mae'r adroddiad yn galw am safonau dylunio cadarn ac ymgysylltu cynnar ac ystyrlon â chymunedau i sicrhau bod teithio llesol yn gweithio i bawb.
Dywedodd Mark Isherwood AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus:
"Mae teithio llesol yn hanfodol ar gyfer creu Cymru iachach sy’n defnyddio ynni yn fwy effeithlon, ond mae'r cynnydd wedi bod yn boenus o araf. Rhaid i Lywodraeth Cymru arwain o'r blaen a chefnogi awdurdodau lleol drwy gyflwyno model cyflawni rhanbarthol, gyda Trafnidiaeth Cymru yn chwarae rôl ganolog o ran cynnig arbenigedd a chydgysylltu. Bydd hyn yn gwella effeithlonrwydd ac yn sicrhau safonau cyson ledled Cymru.
"Hefyd, rydym ni angen rhaglen effeithiol ar lefel genedlaethol i newid ymddygiad mewn ffordd sy’n annog pobl i adael y car gartref, ac mae'n rhaid i ni gynnwys lleisiau lleol ar bob cam o’r gwaith cynllunio. Rhaid i deithio llesol weithio i bawb, gan wella iechyd, lleihau allyriadau a gwneud ein cymunedau yn lleoedd gwell i fyw.
“Rydym yn nodi Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Teithio Llesol, a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon, a oedd yn nodi cynnydd cymedrol mewn teithio llesol yng Nghymru. Rydym yn croesawu’r cynnydd hyn ond fel mae ein hadroddiad ni ac adroddiad y Bwrdd Teithio Llesol yn dangos, mae’r heriau sydd o’n blaenau yn sylweddol, ac rydym wedi gwneud argymhellion ar sut y gellir mynd i’r afael â’r heriau hyn.”