Sefydlu Pwyllgor Newydd i ymdrin â deddfwriaeth y Cynulliad

Cyhoeddwyd 12/12/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Sefydlu Pwyllgor Newydd i ymdrin â deddfwriaeth y Cynulliad

Cyfarfu pwyllgor deddfwriaeth parhaol cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol, a elwir yn Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1, am y tro cyntaf ar 8 Rhagfyr 2008. Bydd y pwyllgor, a gaiff ei gadeirio gan Rosemary Butler AC, y Dirprwy Lywydd, yn ymdrin yn bennaf â deddfwriaeth a gynigir gan Aelod neu bwyllgor (Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol a Mesurau).  

Tasg gychwynnol y pwyllgor yw ystyried egwyddorion cyffredinol Mesur Arfaethedig Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2008 (‘y Mesur arfaethedig’) a chyflwyno adroddiad arno. Cyflwynwyd y Mesur arfaethedig gan Dai Lloyd AC (yr Aelod sy’n gyfrifol) yn dilyn llwyddiant mewn balot, sy’n rhoi’r cyfle i Aelodau’r Cynulliad gyflwyno eu cynigion deddfwriaethol eu hunain.

Diben y Mesur arfaethedig yw cryfhau’r trefniadau sy’n ymwneud â hawl awdurdodau lleol i gael gwared ar gaeau chwarae. Mae’n gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu effaith y gwaredu arfaethedig ar y gymuned leol ac i ymgynghori â grwpiau penodedig cyn penderfynu cael gwared ar gae chwarae. Diben sylfaenol y ddeddfwriaeth, fel y nodwyd gan Dai Lloyd AC, yw sicrhau y rhoddir ystyriaeth lawn i effaith gwerthu caeau chwarae ar iechyd a lles cymunedau lleol.

Dywedodd Rosemary Butler AC, cadeirydd y pwyllgor: “Rwyf yn hynod falch o gael cadeirio’r pwyllgor deddfwriaeth parhaol cyntaf ac o’r ffaith y bydd y ddeddfwriaeth gyntaf y mae’r pwyllgor yn ei hystyried yn canolbwyntio ar rywbeth a fydd yn berthnasol i lawer o gymunedau lleol ledled Cymru. Fodd bynnag, nid rôl y pwyllgor yw ystyried rhinweddau, neu ddiffyg rhinweddau, darpariaeth y caeau chwarae yng Nghymru. Ein gwaith ni yw ystyried a yw’r ddeddfwriaeth arfaethedig, sy’n ceisio sicrhau bod awdurdodau lleol yn asesu effaith lawn gwerthu caeau chwarae ar gymunedau lleol, yn angenrheidiol ac yn ymarferol. Edrychaf ymlaen at glywed barn y rhai sydd â diddordeb, a fydd yn helpu i lywio gwaith y pwyllgor.”

Hoffai’r pwyllgor glywed barn y rhai sydd â diddordeb ar y cwestiynau a ganlyn:

1. A oes angen Mesur Cynulliad ynghylch ymgysylltiad cymunedau o ran y penderfyniadau a wneir gan awdurdodau lleol ynghylch a ddylid cael gwared ar gaeau chwarae?

2. Beth yw eich barn ynglyn â’r darpariaethau allweddol a nodir yn y Mesur arfaethedig, ee

  • y ddyletswydd ar awdurdodau lleol i ystyried effaith bosibl gwerthu caeau chwarae ar gymunedau lleol cyn penderfynu a ddylid cael gwared arnynt

  • y prif ddiffiniadau (Adran 2)

  • y ddyletswydd ar awdurdodau lleol i baratoi ac ymgynghori ynghylch datganiadau effaith cyn penderfynu a ddylid cael gwared arnynt (yn benodol, dull ac ystod yr ymgynghoriad a chynnwys y datganiadau effaith) (Adran 3)

  • y ddyletswydd ar awdurdodau lleol i baratoi datganiad penderfynu, gan gynnwys ei gynnwys a’r trefniadau ar gyfer datgan eu penderfyniad (Adran 6)

  • yr ymgynghorion statudol a nodir yn yr Atodlen i’r Mesur arfaethedig

  • pwerau Gweinidogion Cymru i gyflwyno cyfarwyddiadau stopio ac adfer i awdurdodau lleol (Adran 7).

3. Beth yw goblygiadau ymarferol ac ariannol gweithredu’r darpariaethau hyn?

4. A fydd y Mesur arfaethedig yn bodloni ei ddiben a’i fwriad cyffredinol?

Gwahoddir y rhai sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i glerc y pwyllgor yn y cyfeiriad isod, i gyrraedd ddydd Gwener 6 Chwefror 2009 fan bellaf. Os yn bosibl, anfonwch fersiwn electronig ar fformat MS Word neu Rich Text, naill ai drwy e-bost i LegislationOffice@wales.gsi.gov.uk neu ar ddisg.

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi’r ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus fel bod modd i’r cyhoedd graffu arnynt ac fel bod modd eu darllen

a’u trafod mewn cyfarfodydd pwyllgor. Os nad ydych am i’ch ymateb neu’ch enw gael ei gyhoeddi, mae’n bwysig eich bod yn nodi hynny ar ddiwedd eich cyflwyniad.

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth sy’n ddata personol yn ei farn ef.

Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.

Os ydych yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu ymateb i geisiadau am wybodaeth.

Rhagfyr 2008

Aelodau’r pwyllgor: Rosemary Butler AC (cadeirydd), Eleanor Burnham AC, Jeff Cuthbert AC, Ann Jones AC, Nick Ramsay AC a Janet Ryder AC.

Mesur Arfaethedig Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2008

http://www.cynulliadcymru.org/ms-ld7178-e.pdf