“Senedd fwy effeithiol a hygyrch” - Diwygio etholiadol ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol - Pwyllgor newydd i edrych ar y dyfodol

Cyhoeddwyd 18/09/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/09/2019

Heddiw pleidleisiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru o blaid creu pwyllgor newydd i ystyried argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio'r Cynulliad, a oedd yn cynnwys edrych ar faint y sefydliad a'r system bleidleisio.

Ar 10 Gorffennaf 2019 cytunodd y Cynulliad bod angen cynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad ac y dylid gwneud gwaith trawsbleidiol pellach i ddatblygu hyn.  Yn ystod ymgynghoriad Comisiwn y Cynulliad Creu Senedd i Gymru cafwyd dros 1,800 o ymatebion i gwestiynau am faint y Cynulliad Cenedlaethol, gyda'r mwyafrif yn nodi bod angen rhagor o Aelodau ar y sefydliad er mwyn iddo allu cyflawni ei rôl yn effeithiol.

Bydd Pwyllgor trawsbleidiol newydd ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad yn edrych ar argymhellion a wnaed gan y Panel Arbenigol ar faint y Cynulliad, sut mae Aelodau'r Cynulliad yn cael eu hethol, a sut y gallai system etholiadol newydd annog ethol Cynulliad mwy amrywiol.

Mae'r cam nesaf hwn yn dilyn cam cyntaf y diwygiadau sydd eisoes ar y gweill wrth i'r Bil Senedd ac Etholiadau fynd trwy broses ddeddfwriaethol y Cynulliad. Os caiff y Bil ei basio, bydd yn rhoi'r hawl i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio yn etholiadau cyffredinol Cymru, gan roi llais iddynt mewn penderfyniadau a fydd yn diffinio eu dyfodol. 

Mae hefyd yn cynnig newid enw'r Cynulliad i adlewyrchu ei wir statws fel senedd genedlaethol.  

 

Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

"Mae'r diwygiadau hyn yn ymwneud â'r ffordd orau i gynrychioli pobl Cymru. Dyma'r cam pwysig nesaf wrth greu deddfwrfa fwy effeithiol a hygyrch, gan sicrhau bod ein fframwaith democrataidd yn addas ar gyfer y dyfodol.

"Gyda phwysau cynyddol a chyfrifoldebau ychwanegol y senedd hon, mae'r achos dros ddiwygio yn gryfach nag erioed.

"Edrychaf ymlaen at ddilyn gwaith y pwyllgor wrth graffu ar y materion pwysig hyn, sef democratiaeth ac atebolrwydd."