Gan Joyce Watson AS, Cadeirydd yr Adolygiad o Senedd sy'n Gynhwysol ac yn Ystyriol o Deuluoedd
Lansiwyd yr Adolygiad o Senedd sy’n Gynhwysol ac yn Ystyriol o Deuluoedd ym mis Gorffennaf 2025 i adolygu diwylliant, ffyrdd o weithio a chyfleusterau'r Senedd.
Pan bleidleisiodd Cymru o blaid datganoli yn ôl ym 1998, ein bwriad oedd saernïo rhywbeth gwahanol: Senedd â chynhwysiant wrth ei gwraidd.
Senedd a fyddai’n ddrych o’r wlad yr oedd yn ei gwasanaethu — gan weithio mewn ffordd a fyddai’n rhoi clust i bob llais.
Dros 25 mlynedd yn ddiweddarach, mae llawer o'r uchelgais gynnar honno wedi magu gwreiddiau.
Pam nawr
Ar 7 Mai 2026, bydd pleidleiswyr yn mynd i bleidleisio yn seithfed etholiad y Senedd ers datganoli ym 1999.
Rydym yn paratoi ar gyfer y newid mwyaf yn hanes y sefydliad — y newid i 96 Aelod yn 2026 — nawr yw'r amser i feithrin ein cryfderau, nid cymryd eu bod wedi'u gwarantu.
Dyna pam mae amseriad yr adolygiad hwn yn allweddol. Bydd yr ychydig fisoedd nesaf yn gweld penderfyniadau ynghylch strwythurau busnes ac arferion gwaith yn cael eu gweud a fydd yn pennu natur y Senedd yn y dyfodol.
Mae hon yn foment dyngedfennol i lunio ein diwylliant seneddol, a dylai hynny, yn ei dro, atgyfnerthnu ein gwaith craffu ar faterion cydraddoldeb ar ran pobl Cymru.
Dyma’r adolygiad mwyaf cynhwysfawr hyd yma o sut mae'r Senedd yn cefnogi ei Haelodau i gefnogi eu hetholwyr nhw yn effeithiol a chynrychioli pobl Cymru, a sut y gall barhau i fod yn ddemocratiaeth fodern, flaengar ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Record i ymfalchïo ynddi
Mae'r Senedd yn cael ei dathlu fel arweinydd byd-eang o ran cynrychiolwyr sy’n fenywod – nid yw’r gynrychiolaeth hon erioed wedi bod yn is na 40% ac ein deddfwrfa ni oedd y gyntaf yn y byd i gael cydbwysedd 50:50 o ddynion a menywod yn 2003.
Mae'r Senedd wedi dangos ei hymrwymiad i arferion gwaith cynhwysol, o bleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer absenoldeb rhiant a lwfansau gofalu i Aelodau, a gweithio hybrid.
Mae Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran deddfwriaeth flaengar, o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i waith arloesol ar gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. Ac mae ein Senedd wedi datblygu diwylliant sydd, ar ei orau, yn annog gwrando, cydweithio a pharch.
Ond gydag etholiad ar y gorwel, rydym am wneud yn siŵr bod ein senedd wedi ymgorffori ffyrdd o weithio sy'n hyrwyddo ac yn datblygu cydraddoldeb, yn hytrach na dibynnu ar arferion dewisol a hyrwyddwyr unigol i arwain newid.
Mynegodd yr Aelodau eu balchder yn gyson o gael gwasanaethu Cymru ac yng ngwerthoedd craidd y Senedd. Dywedodd llawer wrthym fod gwaith pwyllgora, cydweithio trawsbleidiol ac ymgysylltu â chymunedau ymhlith y agweddau gorau ar y swydd.
Ond nid yw cynnydd byth yn digwydd ohono ei hun. Y tu hwnt i rywedd, mae amrywiaeth yn gyfyngedig o hyd. Mae rhai pwyllgorau yn dal i ddilyn patrymau cynrychiolaeth traddodiadol. Mae risg y bydd pwysau ar gydbwysedd bywyd a gwaith — yn enwedig natur anwadal y Cyfarfod Llawn o ran ei oriau — yn cau allan y bobl hynny y mae angen i’r Gymru fodern eu gweld yn ei Senedd.
A dyma sydd wrth wraidd ein hargymhellion, a pharhad bwrdd annibynnol i ddwyn Seneddau'r dyfodol i gyfrif am y cynnydd maent yn ei wneud.
Drwy wneud rôl Aelod o’r Senedd mor hygyrch ac apelgar â phosibl, a thrwy gymryd camau sy’n golygu na fydd Aelodau’n gorfod dewis rhwng eu cyfrifoldebau i’w teuluoedd a’u hetholwyr, rydym yn gobeithio denu amrywiaeth ehangach o bobl a fydd yn dod â phrofiadau byw gyda nhw a fydd yn caniatáu i’n Senedd drafod, herio, cwestiynu a llunio penderfyniadau’n well, nid yn unig o ran materion cydraddoldeb, ond o ran y penderfyniadau a fydd yn effeithio ar bawb.
Datblygu’r hyn sy'n gweithio — a datrys yr hyn sy'n ein dal yn ôl
Mae llawer o’r argymhellion yn ein hadolygiad yn adlewyrchu'r ffaith bod y Senedd eisoes yn arloeswr ym maes arferion gwaith da sy'n gynhwysol ac yn ystyriol i deuluoedd – ond gallai wir arwain y byd.
Mae ein hargymhellion yn cynnwys y canlynol:
- Dylai’r Senedd ymrwymo i’r egwyddor o fod yn sefydliad sy’n hygyrch, yn gynhwysol ac yn ystyriol o deuluoedd
- Pennu amser gorffen rhagweladwy ar gyfer y Cyfarfod Llawn fel y gall Aelodau sydd â chyfrifoldebau gofalu gynllunio yn unol â hynny.
- Dylid mynd i'r afael yn weithredol â chamdriniaeth, sydd, yn ôl Aelodau, ymhlith y risgiau mwyaf i ddemocratiaeth a chyfranogiad gwleidyddol — yn enwedig o safbwynt menywod a phobl iau, a dylid sefydlu tasglu Cyfranogiad Diogel mewn Gwleidyddiaeth.
- Cryfhau cydraddoldeb a gwaith prif ffrydio yn ein sefydliad, gan gynnwys mandadu Pwyllgor Cydraddoldeb pwrpasol, gorfodi Cawcws Menywod a sefydlu’n barhaol Fwrdd Gweithredu Senedd sy'n Gynhwysol ac yn Ystyriol o Deuluoedd.
- Casglu data demograffig fel y gallwn ddeall cynrychiolaeth yn iawn am y tro cyntaf.
- Sicrhau cydbwysedd ar bwyllgorau, gan osgoi pwyllgorau un rhywedd a chan gefnogi cyfranogiad tecach.
Y Bwrdd Adolygu
Cafodd y gwaith ei oruchwylio gan fwrdd trawsbleidiol, gyda’r Aelodau a ganlyn:
- Joyce Watson AS, Cadeirydd, Llafur Cymru,
- Peter Fox AS, y Ceidwadwyr Cymreig,
- Jane Dodds AS, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru,
- Siân Gwenllian AS, Plaid Cymru, a
- Mike Hedges AS, Llafur Cymru.
Dr Alison Parken OBE, Dr Rachel Minto a Dr Leah Hibbs, sy’n academyddion o Brifysgol Caerdydd, a gasglodd y data (gan gynnwys dogfennau, cyfweliadau ac arolygon) sydd wedi llywio ein hadroddiad a’r argymhellion.