Senedd ymhlith y 10 gorau am ei chefnogaeth i weithwyr a’u teuluoedd

Cyhoeddwyd 07/10/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/10/2025

Mae Senedd Cymru wedi’i chanmol ymhlith y 10 cyflogwyr gorau yn y DU ar gyfer rhieni a gofalwyr sy'n gweithio.  

Mae'r elusen genedlaethol Working Families wedi cyhoeddi ei Phrif Gyflogwyr ar gyfer 2025, gan wobrwyo Comisiwn y Senedd ymhlith y goreun ar ei rhestr o gyflogwyr hyblyg, sy’n ystyriol o deuluoedd, yn y DU.  

Llun yn cynnwys testun, bedyddfaen, gwaith graffig, llun sgrin

Gall cynnwys a gynhyrchwyd gan AI fod yn anghywir. 

Rôl Comisiwn y Senedd yw cefnogi'r Senedd i sicrhau ei bod yn gweithredu'n llwyddiannus fel corff democrataidd. Dysgwch mwy  

Caiff cyflogwyr eu hasesu gan ddefnyddio meini prawf yr elusen Working Families, a'u sgorio ar feysydd allweddol i adeiladu darlun cynhwysfawr o'u polisïau ac arferion hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd. 

Yn gyson, mae Comisiwn y Senedd ymhlith y rhestr o’r goreuon, ac eleni mae’n rhannu llwyfan gyda chwmnïau fel Archwilio Cymru, Coleg Imperial Llundain a’r cynghorwyr busnes Grant Thornton ymhlith y 10 cyflogwr gorau. 

Buddion cynhwysol a hyblyg 

Mae'r Senedd yn cynnig amrywiaeth o fuddion cynhwysol a hyblyg, i gefnogi pobl â chyfrifoldebau gofalu i ffynnu yn y gweithle.  

Mae gweithio hyblyg, polisïau absenoldeb rhiant, a rhwydweithiau iechyd a llesiant ymhlith y nifer o wasanaethau sydd ar gael i weithwyr er mwyn eu cefnogi i gadw cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith, ochr yn ochr â chyfleoedd dysgu a datblygu i symud ymlaen yn eu gyrfa.