Senedd ymhlith y 50 cyflogwr gorau i fenywod yn ôl rhestr flynyddol The Times

Cyhoeddwyd 30/07/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

​Mae’r Senedd yn falch iawn o fod ymhlith y 50 cyflogwyr gorau i fenywod yn y DU wrth i The Times gyhoeddi ei restr flynyddol o anrhydeddau. 

Ar ddydd Iau 30 Gorffennaf, cafodd rhestr The Times Top 50 Employers for Women, gyda Senedd Cymru ymhlith y cyflogwyr sy’n cael eu canmol yn 2020. 

Mae cyflogwyr o bob sector ar draws y DU yn cystadlu'n flynyddol ac yn gobeithio ennill lle yn y 50 uchaf. Mae’r rhestr yn cydnabod y sefydliadau am ymrwymo i newid profiad menywod yn y gweithle ac i hyrwyddo cydraddoldeb y tu hwnt i’w sefydliadau eu hunain. 

Dywedodd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd:

"Mae Comisiwn y Senedd wedi ymrwymo i greu diwylliant cynhwysol lle gall pob un o'n staff wneud y gorau o’u potensial.  Mae'r wobr hon yn cadarnhau bod y Senedd yn lle gwych i weithio ynddo, ac mae cael cydnabyddiaeth am ein hamgylchedd cadarnhaol a chynhwysol yn adlewyrchiad rhagorol o'r angerdd a'r balchder a ddangosir gan ein pobl ar bob lefel i wireddu'r dyhead o fod yn gyflogwr o’r radd flaenaf.

"Byddwn yn parhau i helpu ein cyflogeion i ddatblygu eu gyrfaoedd a chyrraedd eu llawn botensial drwy fuddsoddi ynddynt er mwyn iddynt allu parhau i ddarparu gwasanaeth rhagorol i Aelodau o’r Senedd sy'n cynrychioli pobl Cymru."

Gweithle sy’n sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau


Er mwyn hawlio lle ymhlith y 50 uchaf, mae cyflogwyr cael eu sgorio ar sut maen nhw wedi creu gweithle sy’n sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau. 

Un esiampl a gyflwynwyd gan y Senedd yn ei chais llwyddiannus oedd y newidiadau sydd wedi digwydd yn yr adran Ddiogelwch yn y blynyddoedd diweddar i wneud gyrfa o fewn yr adran yn fwy agored ac a fydd yn apelio at ragor o fenywod. Ymhlith rhai newidiadau ymarferol oedd addasu’r wisg a gwella’r cyfleusterau i fenywod, yn ogystal a chynnig shifftiau amrywiol. Roedd ymgyrch recriwtio yn adlewyrchu gweithle mwy cyfartal ac yn hyrwyddo cyfleoedd datblygu gyrfa a datblygiad personol o fewn y sefydliad. 

Mae'r gwerthusiad er mwyn ennill lle ymhlith y 50 uchaf yn cynnwys, ond nid yw wedi’i gyfyngu i: rolau uwch arweinwyr; camau gweithredu i gynyddu cynrychiolaeth menywod mewn swyddi uwch a sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau ar bob lefel; recriwtio; datblygiad gyrfaol; rhyngblethedd; cefnogi rhieni a gofalwyr; bwlio ac aflonyddu; prosesau cyflog; ac ymgysylltu allanol i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau y tu allan i'w sefydliad.

Mae'r rhestr yn amlygu'r sefydliadau sydd wedi ymrwymo i'r newid hwnnw ac sy'n trawsnewid profiad menywod yn y gweithle.

Mae Rhwydwaith Menywod ar gyfer gweithwyr benywaidd y Senedd yn darparu llwyfan ar gyfer trafod profiadau menywod ac yn cynghori Comisiwn y Senedd ar faterion sy’n effeithio ar staff benywaidd. 

Mae’r gydnabyddiaeth yma gan The Times yn dangos ymrwymiad y Comisiwn i gynnal gydbwysedd rhwng y rhywiau, meddai Anna Daniel, Uwch Hyrwyddwr Rhwydwaith Menywod Comisiwn y Senedd;

"Mae ymrwymiad Comisiwn y Senedd i gydraddoldeb rhywiol yn golygu bod y sefydliad wedi sicrhau cydbwysedd o 50/50 o ran rhyw, ac mae menywod yn cael eu cynrychioli'n dda iawn yn ein tîm o uwch staff.  Mae ein hymrwymiad wedi’i ategu gan drefniadau gweithio hyblyg a menywod mewn swyddi arwain, gan feithrin diwylliant sy'n rhoi cyfleoedd i bawb a chydweithwyr sy’n garedig ac yn dangos parch at ei gilydd. Mae hyn i gyd yn trawsnewid profiad menywod yn y gweithle.”

Mae’r cyflogwyr yn rhestr The Times Top 50 Employers for Women yn cael eu dewis gan arbenigwyr cydraddoldeb rhywiol Busnes in the Community, rhan o rwydwaith y Prince’s Responsible Business Network. Meddai Charlotte Woodworth, Cyfarwyddwr yr Ymgyrch Cydraddoldeb Rhywiol: 

“Rhestr y 50 Cyflogwr Gorau ar gyfer Menywod The Times gan sefydliad Busnes yn y Gymuned yw’r wobr hynaf a mwyaf blaenllaw i gyflogwyr sydd wedi ymrwymo i sicrhau cydraddoldeb i fenywod yn y gwaith. Mae’r wobr yn dathlu ei dengmlwyddiant eleni, ac roedd hi’n arbennig o gystadleuol. Mae degawd o arbenigedd a phrofiad yn sail i waith asesu Busnes yn y Gymuned, ac mae’r sefydliadau'n cael eu hadolygu ar draws ystod eang o feysydd gan gynnwys tryloywder ynghylch arferion cyflog, polisïau cyfeillgar i deuluoedd, ac i ba raddau y mae'r agenda cydraddoldeb rhywiol wedi'i hymgorffori mewn strategaeth ehangach."