Cyhoeddwyd 24/09/2007
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014
Sesiwn graffu gyntaf ar Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig y Llywodraeth
Heddiw, (dydd Iau ,20 Medi) cynhaliwyd sesiwn dystiolaeth gyntaf y Pwyllgor GCD Arfaethedig Anghenion Dysgu Ychwanegol, a sefydlwyd o dan bwerau newydd Llywodraeth y Cynulliad i graffu ar ddeddfwriaeth arfaethedig. Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth oddi wrth Jane Hutt AC, Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, ac oddi wrth gynrychiolwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r Comisiwn Hawliau Anabledd.
Bydd y GCD Anghenion Dysgu Ychwanegol yn rhoi’r pwer i’r Cynulliad wneud ei ddeddfau’i hun , a elwir yn Fesurau, ym maes addysg a hyfforddiant ar gyfer pobl sydd ag anawsterau ac anableddau dysgu.
Dyma’r Gorchymyn arfaethedig cyntaf gan y Llywodraeth y creffir arno gan y Cynulliad o dan bwerau a gyflwynwyd drwy Ddeddf Llywodraeth Cymru. Yn rhan o’r craffu cyn y broses ddeddfu, bydd y Pwyllgor yn ystyried yr egwyddorion cyffredinol a thelerau’r Gorchymyn arfaethedig ac yn cyflwyno adroddiad i’r Cynulliad.
Dywedodd Eleanor Burnham AC, Cadeirydd y Pwyllgor: "Mae cyfnod cyffrous o flaen y Cynulliad gyda’i bwerau deddfu grymusach. Mae gan y Pwyllgor hwn gyfle unigryw i arwain yn hyn o beth drwy graffu’n effeithiol ac yn fanwl ar y darn cyntaf o ddeddfwriaeth arfaethedig sy’n dod oddi wrth y Llywodraeth yn y Trydydd Cynulliad sydd newydd ei ffurfio.
"Mae hi’n hanfodol ein bod yn ennyn diddordeb y cyhoedd ac yn annog unigolion i rannu gyda ni eu syniadau am y cynigion sydd yn gallu effeithio ar fywydau pobl Cymru."
Mae’r Pwyllgor am glywed hefyd oddi wrth fuddgyfranogwyr; y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad ysgrifenedig yw dydd Gwener 28 Medi, ac mae
Gwybodaeth ynglyn â chyflwyno tystiolaeth