Sesiwn hanesyddol ar y cyd rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a Senedd Ieuenctid Cymru

Cyhoeddwyd 24/06/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/06/2019

Mewn digwyddiad hanesyddol, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd Ieuenctid Cymru yn cynnal sesiwn ar y cyd yn y Senedd ddydd Mercher, 24 Mehefin.

Yn ystod y sesiwn, bydd y ddau sefydliad yn cytuno ar y ffordd y byddant yn cydweithio i sicrhau y caiff lleisiau pobl ifanc yng Nghymru eu clywed ac i gadarnhau annibyniaeth Senedd Ieuenctid Cymru.

Bydd Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru ac arweinwyr grwpiau gwleidyddol y Cynulliad yn rhoi areithiau yn y Siambr o 13.30, a bydd y sesiwn yn cael ei ffrydio’n fyw ar Facebook/Twitter, YouTube ac ar wefan Senedd Ieuenctid Cymru.

Credir mai’r sesiwn hon fydd y gyntaf i gael ei chynnal rhwng Senedd a Senedd Ieuenctid, a byddant yn gorffen drwy gytuno ar ddatganiad ar y cyd rhwng y ddau sefydliad yn ‘gosod egwyddorion sylfaenol y berthynas rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd Ieuenctid Cymru i sicrhau bod gan bobl ifanc Cymru lais ar y lefel uchaf’.

Bydd y datganiad yn:

  • Sicrhau bod materion, penderfyniadau a gwaith Senedd Ieuenctid Cymru yn cael eu harwain gan ei Aelodau a’r bobl ifanc y maent yn eu cynrychioli.

  • Sicrhau bod gwaith Senedd Ieuenctid Cymru yn greiddiol wrth wneud penderfyniadau ac i strwythurau democrataidd yng Nghymru.

  • Parhau i wella’r ffyrdd y mae pobl ifanc yn cyfrannu at brosesau gwneud penderfyniadau yng Nghymru yn unol ag Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, sy’n datgan bod gan bobl ifanc yr hawl i fynegi eu barn yn rhydd ac i’w barn gael ei glywed ar faterion sy’n effeithio arnynt.

“Mae’r sesiwn ar y cyd heddiw yn achlysur cyffrous a fydd yn dangos ymrwymiad y Senedd i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed yn ein proses ddemocrataidd,” meddai Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

“Rydym yn cyflwyno deddfwriaeth i ostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau'r Cynulliad ac rydym wedi gweithio'n galed i sefydlu Senedd Ieuenctid Cymru.

“Bydd y cynnig y pleidleisiwyd arno yn y sesiwn ar y cyd hon yn ffurfioli ein perthynas gyda'n gilydd yn y dyfodol ac yn sicrhau bod lleisiau Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru a'u hetholwyr yn cyfrif.

“Bydd yn sefydlu annibyniaeth Senedd Ieuenctid Cymru ac yn sicrhau bod ei gwaith yn rhan annatod o wneud penderfyniadau yng Nghymru.”

Fis Chwefror eleni oedd y tro cyntaf i Senedd Ieuenctid Cymru gyfarfod yn dilyn etholiad ddiwedd 2018. Mae ganddo 60 Aelod, â 40 ohonynt yn cynrychioli etholaethau Cymru,

Etholwyd Aelodau ar gyfer yr 20 sedd arall gan sefydliadau partner i sicrhau cynrychiolaeth ehangach wrth i Aelodau gynrychioli sefydliadau gofal cymdeithasol, BAME, LGBTQ+, a sipsiwn-teithwyr.

Yn ystod ei gyfarfod cyntaf, pleidleisiodd yr Aelodau i sefydlu tri phrif flaenoriaeth dros eu tymor o ddwy flynedd, sef cymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl; sbwriel a gwastraff plastig; a sgiliau bywyd yn y cwricwlwm.

Mae’r Senedd Ieuenctid hefyd eisoes wedi cyfrannu at waith y Cynulliad drwy roi sylwadau ar y Bil Senedd ac Etholiadau a fydd, os caiff ei basio, yn gostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau’r Cynulliad i 16 oed.

Mae Aelodau o’r Senedd Ieuenctid hefyd wedi rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fel rhan o’i waith yn trafod y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) a fydd, os caiff ei basio, yn cael gwared ar yr amddiffyniad cosb resymol mewn perthynas â tharo plant.

Bydd yr Aelodau’n rhoi diweddariad ar brif flaenoriaethau y Senedd Ieuenctid mewn cyfarfod ymlaen llaw yn y Pierhead ym mae Caerdydd, yng nghwmni Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland.