Sesiwn holi ac ateb y Cynulliad yn Ysgol Bryn Elian, Hen Colwyn
Bydd pobl ifanc yn Hen Golwyn yn cael cyfle i wybod rhagor am wleidyddiaeth a democratiaeth yng Nghymru mewn sesiwn holi ac ateb arbennig yn Ysgol Bryn Elian, ddydd Gwener, 10 Hydref 2008. Trefnwyd y digwyddiad gan Wasanaeth Allgymorth Gogledd Cymru’r Cynulliad Cenedlaethol a bydd yn pwysleisio’r pwysigrwydd o bleidleisio a chymryd rhan yn y broses ddemocrataidd i bobl yn eu harddegau.
Fel rhan o’r rhagarweiniad i Wythnos Democratiaeth Leol (13-17 Hydref), bydd Myfyrwyr Bagloriaeth Cymru ym Mlwyddyn 12 a 13 Ysgol Bryn Elian a chynrychiolwyr y Cyngor Ysgol yn holi panel a fydd yn cynnwys Darren Millar, yr Aelod Cynulliad dros Orllewin Clwyd, Brian Cossey, y cynghorydd lleol dros Golwyn a’r ymgeiswyr seneddol lleol Donna Hutton a Llyr Huws Gruffydd ar amryw o bynciau. Ni roddir y cwestiynau o flaen llaw i aelodau’r panel a dim ond munud yr un fydd ganddynt i ateb. Bydd Prif Ferch a Phrif Fachgen yr ysgol (Hannah Goodhall a Darren Hughes) yn cadw trefn ar y panel.
Wrth gyhoeddi’r digwyddiad, dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad:
“Mae hwn yn gyfle gwych i bobl ifanc ddysgu am y broses ddemocrataidd yng Nghymru a herio gwleidyddion presennol a darpar wleidyddion ynghylch yr hyn allant ei wneud i wella ein cymunedau a newid bywydau pobl ifanc.Mae myfyrwyr yn yr ysgol eisoes wedi cymryd rhan mewn gweithdai a gynhaliwyd gan Swyddog Addysg Gogledd Cymru’r Cynulliad, gweithdai sy’n rhoi dealltwriaeth dda o’r ffordd mae’r Cynulliad yn gweithio ac yn gwneud gwahaniaeth i bobl Cymru.”
Bydd y digwyddiad yn cychwyn am 1.15pm yn Ysgol Bryn Elian, Rhodfa Windsor, Hen Golwyn. Os am drefnu ffotograffau neu os am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Emyr Williams, Rheolwr y Cyfryngau, ar y rhifau isod.
Fel rhan o Wythnos Democratiaeth Leol, bydd 12 o ysgolion yn ymweld â’r Cynulliad Cenedlaethol ym Mae Caerdydd.Mae’r ysgolion hyn yn cynnwys Ysgol Uwchradd Treffynnon, Ysgol Alun, yr Wyddgrug, Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun ac Ysgol Uwchradd y Fflint.
Nodiadau i olygyddion:
Gall ysgolion ar draws gogledd Cymru drefnu i Swyddog Addysg Gogledd Cymru’r Cynulliad gynnal gweithdai ar gyfer disgyblion 7-18 oed. Mae’r gweithdai’n cynnwys gweithgareddau grwp a chyflwyniad rhyngweithiol yn yr ysgol
Gall ysgolion hefyd ymweld â’r Cynulliad Cenedlaethol ym Mae Caerdydd, lle mae gan y Gwasanaeth Addysg ganolfan addysg ryngweithiol newydd i helpu disgyblion 7-18 oed gael y budd mwyaf o’u hymweliad. Gall ysgolion sydd wedi eu lleoli fwy na deng milltir o Fae Caerdydd hawlio cymhorthdal ar gyfer costau teithio.
Am fwy o wybodaeth ewch i adran addysg gwefan y Cynulliad: http://www.cynulliadcymru.org/gethome/get-visits/get-visits-education.htm
Er mwyn trefnu ymweliad â’r Cynulliad neu â Chanolfan Ymwelwyr y Gogledd, neu drefnu apwyntiad â Swyddog Addysg Peripatetig i ymweld â’ch ysgol ffoniwch linell archebu’r Cynulliad ar 0845 010 5500, ffôn testun 0845 010 5678 neu anfonwch e-bost at: assembly.bookings@wales.gsi.gov.uk