Sicrhau bod cyfiawnder yn gweithio i bobl Cymru

Cyhoeddwyd 10/03/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Heddiw mae Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y Cynulliad Cenedlaethol yn lansio ymchwiliad i'r system gyfiawnder yng Nghymru.

Yn dilyn adroddiad diweddar y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn amlygu bod pobl yng Nghymru yn cael eu gadael i lawr gan y system gyfiawnder, bydd y Pwyllgor yn edrych ar gyfrifoldebau Llywodraeth y DU a San Steffan a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol. 

Fel rhan o'r ymchwiliad, bydd y Pwyllgor hefyd yn edrych ar sut y gellir symleiddio'r broses gyfiawnder a'i gwneud yn fwy hygyrch i bawb.

Bydd y Pwyllgor yn gofyn am dystiolaeth gan arbenigwyr cyfreithiol, gweinidogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar gymhlethdodau a heriau'r system gyfiawnder. Bydd hefyd yn ceisio dod o hyd i arfer gorau o ran sut mae pethau'n gweithio yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Cafodd rôl y Pwyllgor ei addasu yn dilyn argymhelliad gan Adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru gan nodi y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol gael mwy o gyfrifoldeb craffu dros gyfiawnder.

Mick Antoniw AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad:

"Nod ein hymchwiliad yw gweld sut y gallwn sicrhau bod cyfiawnder yn gweithio i bobl. Gyda dwy lywodraeth a dwy senedd, gall system Cymru fod yn ddryslyd i bobl sy'n ceisio cyfiawnder. Ar hyn o bryd rydym yn pryderu nad yw'r system yn gweithio i Gymru.

"Byddwn yn adolygu sut mae'r system yn gweithio ar hyn o bryd ac yn edrych ar wneud argymhellion i wella sut mae pethau'n gweithio i bobl Cymru."