Bydd yr Aelodau Cynulliad yn ymateb yn well i faterion cyfoes sy'n effeithio ar bobl Cymru ar ôl cyflwyno cwestiynau amserol yn y Cyfarfod Llawn heddiw.Bu i Bwyllgor Busnes y Cynulliad, sy'n gyfrifol am drefnu trafodion y Cynulliad, gytuno ar y newid yn ei gyfarfod ar 21 Mawrth. Fe’i cymeradwywyd wedyn gan y Cynulliad ddydd Mercher 5 Ebrill.
Mae'n golygu y bydd Aelodau yn gallu cyflwyno cwestiynau am faterion sydd o ddiddordeb lleol, rhanbarthol neu genedlaethol hyd at fore'r Cyfarfod Llawn ar ddydd Mercher.
Mae’r drefn bresennol, sef 'Urgent Questions' yn Saesneg, wedi cael ei hailenwi yn 'Emergency Questions'. Fodd bynnag, 'Cwestiynau Brys' fydd yr enw Cymraeg o hyd, gyda maen prawf newydd sy'n galw am 'arwyddocâd cenedlaethol brys'.
Y Llywydd fydd yn penderfynu pa Gwestiynau Brys a Chwestiynau Amserol i'w derbyn.
Heddiw, bydd yr Aelodau yn trafod y cwestiynau amserol canlynol:
- Jeremy Miles (Castell-nedd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ei benderfyniad i gymeradwyo defnyddio proffylacsis cyn-gysylltiad yng Nghymru fel rhan o astudiaeth?
- Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr archwiliad sy’n cael ei gynnal gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i adroddiadau y gallai ansawdd y gofal a gafodd cleifion dementia ar ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd fod wedi cyfrannu at o leiaf saith o farwolaethau?
Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
"Dyma enghraifft arall ohonom yn moderneiddio ein ffyrdd o weithio i gryfhau atebolrwydd y Cynulliad i'r rheini yr ydym yn eu cynrychioli.
"Fe wnaethom gyflwyno’r drefn o ethol cadeiryddion pwyllgorau flwyddyn yn ôl a bydd y newid hwn yn caniatáu i’r Aelodau ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ynghylch materion cyfoes ac yn eu galluogi i ymateb yn gynt i'w hetholwyr. "