Mae Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gofyn am farn y cyhoedd ynghylch sut y gellir sicrhau dyfodol ynni gwell i Gymru.
Nid yw'r term 'ynni' yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio cynhyrchu trydan yn unig, ond hefyd yr angen i ystyried goblygiadau'r ffordd y mae pobl yn cynhyrchu gwres yn eu tai.
Mae angen i Gymru leihau ei hallyriadau carbon yn gyflym os yw am helpu i atal tymheredd cyfartalog y byd rhag codi mwy na 2° Celsius.
Bydd y Pwyllgor yn trafod y canlynol:
- A ddylem fod yn llosgi tanwydd ffosil, fel nwy naturiol, neu chwilio am ddewisiadau eraill isel eu carbon neu ddi-garbon?
- A allwn ddatgarboneiddio ein system ynni yn ddigon cyflym i sicrhau'r gostyngiadau angenrheidiol yn yr allyriadau?
- Beth yw'r heriau o ran cyflawni'r targed hwnnw?
- Beth sy'n ein rhwystro rhag gwneud tai yn fwy effeithlon o ran ynni?
- Beth allwn ni ei wneud i argyhoeddi cymunedau, busnesau a diwydiant i ymgysylltu a gweddnewid y ffordd y maent yn ystyried ynni?
Dywedodd Alun Ffred Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd:
"Er mwyn sicrhau'r gostyngiad hwn yn yr allyriadau carbon, rydyn ni o'r farn bod angen gweddnewid y ffordd rydyn ni'n meddwl am ynni yn sylfaenol.
"Bydd yr ymchwiliad hwn yn trafod sawl mater, fel sut y gall Cymru sicrhau dyfodol ynni gwell, gan gynnwys cyflenwi ynni carbon isel, rheoli'r galw am ynni a storio ynni.
"Rydyn ni eisiau clywed barn pobl ynghylch a all y seilwaith a'r fframwaith rheoleiddio presennol gyflawni'r newidiadau hyn ar y gyfradd angenrheidiol, a pha gamau y mae angen eu cymryd gan y cyhoedd yng Nghymru a'r rhai sy'n gweithio yn y sectorau preifat a'r trydydd sector."