Sylw gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Mark Drakeford AC, ar ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru.

Cyhoeddwyd 26/10/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Sylw gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Mark Drakeford AC, ar ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru.

26 Hydref 2012

Croesawaf ymateb y Llywodraeth i’n hymchwiliad dilynol, ac rwy’n falch bod y Gweinidog wedi derbyn ein hargymhellion.

Er i’r gwasanaeth yng Nghymru gyflawni llawer dros y ddwy flynedd ddiwethaf, nid yw’r gwaith hwn bob amser wedi’i gyfleu’n glir i’r byd tu allan fel y mae’n ei haeddu.

Edrychwn ymlaen at weld y Fanyleb Gwasanaeth Genedlaethol cyn gynted â phosibl ac rydym yn gobeithio y caiff ei gweithredu’n gyflym a’i chyfleu’n glir.

Rydym yn falch iawn bod y Gweinidog yn bwriadu sefydlu Grwp Gorchwyl a Gorffen i ystyried yr opsiynau ar gyfer darparu gwasanaeth sy’n gallu mynd i’r afael â gofynion cymdeithasol a ffordd o fyw ehangach y defnyddwyr.

Er ein bod yn nodi nad yw’r dyddiad cau, sef hydref 2012, a grybwyllwyd gan y Bwrdd Partneriaeth, yn ymddangos yn realistig ym marn y Gweinidog, rydym yn dal i gredu bod brys i gwblhau’r gwaith hwn.

Ymchwiliad un-dydd ar wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru