Mae Llywydd y Senedd, Elin Jones AS, â Phwyllgor Busnes y Senedd wedi cytuno symud at fodel hybrid ar gyfer cyfarfodydd llawn cyn diwedd y tymor.
Byddai'r Senedd hybrid yn galluogi rhai Aelodau i fod yn bresennol yn y Siambr gan sicrhau fod rheolau ymbellhau cymdeithasol yn cael eu dilyn, ac Aelodau eraill i gyfrannu'n rhithiol o'r cartref.
Y bwriad yw defnyddio model hybrid ar gyfer dwy sesiwn ola'r tymor ar Orffennaf 8 a 15.
Mae Aelodau'r Senedd eisoes wedi pleidleisio dros gyflwyno pleidleisio electroneg o bell fydd yn galluogi pob Aelod i bleidleisio o'u cartref.
Byddai hyn yn disodli'r broses bresennol ble fo cynrychiolydd o bob grŵp gwleidyddol yn pleidleisio ar ran eu grŵp, ac Aelodau annibynnol yn pleidleisio eu hunain.
Dywedodd y Llywydd, Elin Jones AS;
"Rydym wedi arloesi a chynnal holl elfennau craidd o waith y Senedd – boed yn gyfarfodydd llawn neu'n waith pwyllgorau drwy gyfarfodydd ar-lein, ac mae wedi bod yn hynod effeithiol hyd yma.
"Erbyn hyn, rydym wedi profi ymarferoldeb y model hybrid ac yn teimlo ei bod yn amserol i ni symud at y model hwn. Bydd y Senedd hybrid yn cadw at reolau ymbellhau cymdeithasol tra'n galluogi pob Aelod i gymryd rhan, boed yn rhithiol neu yn y Siambr.
"Mae rhoi pleidlais electroneg o bell i bob aelod hefyd yn gam pwysig i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael eu hanffafrio pe na baent yn bresennol yn y Siambr.
"Dyma'r cam nesaf naturiol o ran sicrhau fod y Senedd yn gallu parhau i gynnal Busnes yn ddiogel ac effeithiol, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y model hybrid ar waith."