Syniadau'r Cynulliad i fod yn rhan o'r drafodaeth yng Nghyfarfod Llawn Cynulliad Seneddol Prydain ac Iwerddon
18 Hydref 2012
Bydd grwp o Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn mynychu sesiwn lawn Cynulliad Seneddol Prydain ac Iwerddon (BIPA) yn Glasgow ar 22 a 23 Hydref.
Hwn fydd 45ain Cyfarfod Llawn BIPA, sy'n dwyn ynghyd gwleidyddion o Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Senedd San Steffan, Senedd Iwerddon, Ynys Manaw a deddfwrfeydd Guernsey a Jersey.
Nod y sesiynau yw trafod materion o ddiddordeb cyffredin, a bydd pynciau'r sesiwn hon yn cynnwys ynni a menter, y sector bwyd a diod a thwristiaeth.
Mae'n cynnig cyfle i Aelodau'r Cynulliad rannu eu syniadau am waith diweddar Pwyllgorau'r Cynulliad wrth iddynt edrych ar ynni gwynt a Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru).
Dywedodd David Melding AC, y Dirprwy Lywydd a phrif gynrychiolydd y Cynulliad: "Mae'r sesiynau rhyng-seneddol hyn yn werthfawr iawn am ddau reswm.
"Nid yn unig y gallwn ddysgu oddi wrth syniadau a pholisïau seneddau eraill y DU ac Iwerddon, ond gallwn ddangos iddynt y gwaith craffu gwerthfawr y mae ein pwyllgorau'n ymgymryd ag ef.
"Bydd y Bil hylendid bwyd yn gwneud Cymru'n unigryw o ran rhoi dyletswydd statudol ar gynhyrchwyr bwyd i arddangos eu sgôr hylendid, tra bod ein Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd wedi gorffen darn sylweddol o waith yn ddiweddar ar ddyfodol cynhyrchu ynni yng Nghymru.
"Felly mae gennym lawer i'w ddweud wrth ein cydweithwyr mewn deddfwrfeydd eraill yn y DU ac Iwerddon, ond mae fy nghyd-Aelodau a minnau hefyd yn edrych ymlaen at glywed sylwadau gan rannau eraill o'r Deyrnas Unedig ac Iwerddon.