Systemau chwistrellu dŵr mewn tai newydd? – Dweud eich dweud

Cyhoeddwyd 14/07/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Systemau chwistrellu dwr mewn tai newydd? – Dweud eich dweud

14 Gorffennaf 2010

Mae grwp trawsbleidiol o Aelodau’r Cynulliad wedi dechrau craffu ar gyfraith arfaethedig newydd a fydd, os caiff ei basio, yn golygu y bydd yn rhaid i systemau chwistrellu dwr gael eu gosod ym mhob ty newydd.

Am y tro cyntaf, bydd y Mesur arfaethedig Diogelwch Tân Domestig (Cymru) yn gorfodi adeiladwyr tai i osod chwistrellwyr awtomatig mewn tai newydd sy’n cael eu hadeiladu yng Nghymru.

Cafodd ei gyflwyno fel Mesur arfaethedig Aelod gan Ann Jones AC, yr Aelod Cynulliad dros Ddyffryn Clwyd, a nawr bydd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1 yn craffu arno.

Mae’r Pwyllgor am glywed barn aelodau’r cyhoedd a grwpiau sydd â diddordeb.

“Ar gyfartaledd, mae tanau mewn tai yn lladd tua 18 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn”, dywedodd Rosemary Butler AC, Cadeirydd y Pwyllgor.

“Rôl y Pwyllgor fydd craffu yn fanwl ar y cynnig a sicrhau ei fod yn gyfraith dda ac ymarferol.

“Er mwyn gwneud hynny, rydym am glywed gan gymaint o bartïon â phosibl sydd â diddordeb, i glywed eu barn am y cynnig.

“Fy neges heddiw yw: cysylltwch â Chynulliad Cenedlaethol Cymru i ddweud eich dweud.”

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, anfonwch eich sylwadau at:

Legislationoffice@wales.gov.uk

Neu ysgrifennwch at Liz Wilkinson, Clerc y Pwyllgor, Y Swyddfa Ddeddfwriaeth, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Cynulliad:

Daw’r ymgynghoriad i ben ar 3 Medi.