Taflu goleuni ar y ddarpariaeth o wasanaethau canser yng Nghymru
10 Chwefror 2014
Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol wedi dechrau ymchwiliad i weld pa mor dda y mae byrddau iechyd Cymru yn darparu gwasanaethau trin canser.
Bydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn canfod faint o gynnydd a wnaed o ran gweithredu ‘Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser
’ Llywodraeth Cymru ar ôl ei lansio yn 2012.
Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar atal y clefyd drwy wneud pobl yn ymwybodol o arwyddion cynnar canser, gan eu hannog i ymweld â’u meddyg teulu yn gynnar i gael cyngor a thriniaeth. Dylai meddygon teulu hefyd, yn eu tro, gael mwy o fynediad at wasanaethau diagnostig, yn enwedig sganiau uwchsain a CT.
Mae’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser i gael ei roi ar waith gan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG sy’n atebol i Lywodraeth Cymru.
Yn ôl Cancer Research UK, mae cyfradd y rhai sy’n goroesi canser yn cynyddu ond mae’r achosion o ganser yng Nghymru ymhlith yr uchaf yn y DU. Mae ffigurau’n dangos bod oddeutu 524 achos o ganser i bob 100,000 o bobl yn y DU. Yng Nghymru, mae 599 achos o ganser i bob 100,000.
“Gall canser effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg,” meddai David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
“Er ei bod yn galonogol bod ffigurau’n awgrymu bod cyfradd y rhai sy’n goroesi canser yn cynyddu, mae’n bryderus bod nifer yr achosion yng Nghymru yn parhau i fod yn uchel iawn o’i gymharu â rhannau eraill o’r DU.
“Bydd yr ymchwiliad hwn yn ceisio darganfod pam bod hyn yn digwydd a faint o gynnydd y mae byrddau iechyd lleol yn ei wneud o ran gwella gwasanaethau canser yng Nghymru.”
“Nododd Llywodraeth Cymru strategaeth uchelgeisiol yn 2012, yn canolbwyntio ar atal y clefyd drwy adnabod arwyddion cynnar a gwella mynediad at wasanaethau sgrinio.
“Hoffem glywed gan unrhyw un sydd â phrofiad o naill ai ddarparu gwasanaethau canser neu eu defnyddio ledled Cymru.”
Gall unrhyw un sy’n dymuno cyfrannu at yr ymchwiliad anfon e-bost at HSCCommittee@cymru.gov.uk neu ysgrifennu at:
Clerc y Pwyllgor
Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus yw dydd Gwener 4 Ebrill 2014.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yma.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am ffigurau ar gyfer marwolaethau Cancer Research UK yma.