Takeover Caerdydd 2013 - y Cynulliad yn agor ei ddrysau i bobl ifanc ar gyfer digwyddiad diwylliant ieuenctid

Cyhoeddwyd 10/10/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Takeover Caerdydd 2013 - y Cynulliad yn agor ei ddrysau i bobl ifanc ar gyfer digwyddiad diwylliant ieuenctid

10 Hydref 2013

Ddydd Sadwrn 12 Hydref, bydd David Melding AC, Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn croesawu pobl ifanc i'r Senedd i agor y digwyddiad Takeover Caerdydd yn swyddogol.

Digwyddiad sy'n cael ei drefnu gan British Council Cymru yw Takeover Caerdydd 2013.  Yn ystod y digwyddiad, bydd pobl ifanc yn meddiannu rhai o brif leoliadau'r ddinas er mwyn cymryd rhan mewn gweithdai a digwyddiadau celf.

Bydd arbenigwyr rhyngwladol o amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys dawns, llenyddiaeth a'r byd ffilmiau, hefyd yn bresennol i gynorthwyo'r bobl ifanc.

Heblaw'r Senedd, mae Canolfan Mileniwm Cymru, Llyfrgell Ganolog Caerdydd ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru hefyd ymhlith y rhai a fydd yn agor eu drysau.

“Mae'n bleser cael y cyfle i groesawu pobl ifanc i galon democratiaeth Cymru,” meddai'r Dirprwy Lywydd.

“Mae'n dda gweld lleoedd diwylliannol eiconig y ddinas yn cael eu meddiannu gan bobl ifanc a fydd yn trefnu, yn datblygu ac yn cymryd rhan yn eu rhaglenni celf eu hunain.  Gobeithio y bydd y rhaglenni hyn yn llwyddiant o ran grymuso'r bobl ifanc a fydd yn cymryd rhan ynddyn nhw, ac o ran rhoi lle blaenllaw i dalent newydd o Gymru ar lwyfan y byd.

“Pobl ifanc yw dyfodol Cymru. Dyna pam rydyn ni'n manteisio ar y cyfle hwn i hyrwyddo ein hymgynghoriad cenedlaethol i bobl ifanc, sef 'Dy Gynulliad di - dy lais di, dy ffordd di'. Mae'r ymgynghoriad yn gofyn i bobl ifanc sut ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymgysylltu â nhw.”

“Rydyn ni am i bobl ifanc ddweud wrthym beth sy'n bwysig iddyn nhw, beth maen nhw'n ei ddisgwyl gennym ni a beth allwn ni ei wneud i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed.”

Dim ond 35% o bobl rhwng 18 a 24 oed a aeth allan i bleidleisio yn etholiad diwethaf y Cynulliad yn 2011, ac mae'r ymddieithrio hwn ymysg pobl ifanc i'w weld hefyd yn y nifer a bleidleisiodd mewn etholiadau eraill, yn ogystal â gwaith ymchwil ehangach.

Dyna pam mae'r Llywydd wedi gwneud ymgysylltu â phobl ifanc yn un o'i blaenoriaethau allweddol ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad.  Er nad oes gan bobl ifanc dan 16 oed hawl i bleidleisio, gallan nhw fynegi barn am y modd y mae Cymru yn cael ei rhedeg, drwy helpu i lunio deddfau a chyfrannu at ymchwiliadau.

Ym mis Medi, lansiwyd gwefan newydd, www.dygynulliad.org, er mwyn annog pobl ifanc i ddweud wrth y Cynulliad beth sy'n eu poeni a sut yr hoffen nhw gymryd rhan.

Mae arolwg ar-lein ar y safle, ac mae cyfle hefyd i gynnal trafodaethau grwp.  Mae'r rheini'n cael eu trefnu gan staff y Cynulliad Cenedlaethol, ac maen nhw'n gyfle i awgrymu a chyfnewid syniadau.

Yn ogystal â'r arolwg a'r grwpiau trafod, caiff pobl ifanc eu hannog i fynegi barn drwy @DyGynulliad neu drwy ddefnyddio #DyGynulliad ar twitter, rhoi neges ar dudalen Dy Gynulliad ar Facebook neu gyflwyno fideos.

Bydd y bobl ifanc hynny a fydd yn ymweld â'r Cynulliad ar gyfer digwyddiad Takeover Caerdydd hefyd yn cael pecyn Dy Gynulliad, yr ymgynghoriad cenedlaethol ar gyfer pobl ifanc.

Dywedodd Simon Dancey, Cyfarwyddwr British Council Cymru: “Rydyn ni'n falch iawn ein bod yn cael y cyfle cyffrous hwn i lansio Takeover Caerdydd gyda'n partneriaid!  Mae'r cyfle unigryw hwn yn gyfle i ni weithio gyda dinasyddion byd-eang y dyfodol, a denu arweinwyr rhyngwladol i rannu eu harbenigedd.

“Mae gan Gymru ddiwylliant hyfryd ac unigryw, a bydd Takeover Caerdydd yn rhoi'r diwylliant hwnnw ar fap y byd.

“Er mai rhagflas yn unig yw'r digwyddiad hwn, rydyn ni'n awyddus iawn i dynnu sylw'r cyhoedd at hyn, gan obeithio y bydd pawb yn dilyn y llwybr o amgylch y ddinas.”