Datganiad gan Paul Davies AS, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd
"Mae cyhoeddiad Tata Steel yn newyddion trychinebus i gymuned Port Talbot a phawb yng Nghymru sy'n dibynnu ar y diwydiant, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio yn safleoedd eilaidd Tata yn Llanwern a Throstre. Mae’r gweithwyr, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach yn ein meddyliau yn y Senedd.
“Rydym ni fel Pwyllgor yn bwriadu cynnal sesiwn frys, gan alw ar Weinidogion i fynd at wraidd cwestiynau sydd heb eu hateb ac i gael sicrwydd ynghylch y cymorth sydd ar gael i bobl yr effeithir arnynt.
"Y llynedd, siaradodd y Pwyllgor ag undebau am y posibilrwydd o golli swyddi ym maes dur yng Nghymru a chlywsom am yr effaith ofnadwy y byddai'n ei chael ar weithwyr y ffatri, eu teuluoedd a'u cymuned, yn ogystal â'r canlyniadau i'r gadwyn gyflenwi ehangach.
"Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gael atebion i'r rhai sydd wedi'u heffeithio."