Teyrnged i Brynle Williams gan y Llywydd, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas
1 Ebrill 2011
‘Bydd pob un o gyn-gydweithwyr Brynle yn y Trydydd Cynulliad yn gweld ei golli. Rydym yn cydymdeimlo â Mary a theulu a chyfeillion Brynle. Byddai ei ddisgrifio fel rhywun unigryw yn tanbrisio ei bersonoliaeth. Roedd ei gariad at ei deulu, ei gyfeillion, ei gobiau a’i wlad yn heintus. Roedd bob tro’n bositif, hyd yn oed mewn adegau cythryblus; rwy’n amau a oedd ganddo asgwrn negyddol yn ei gorff. Pan fynegodd ddiddordeb mewn ymgeisio am sedd yn y Cynulliad, roeddwn yn hynod falch gan y gallai fod wedi sefyll dros o leiaf dair plaid! Roedd y newid o fod yn ffermwr a phrotestiwr tanwydd i fod yn wleidydd etholedig yn rhwydd iddo. Cefnogodd ei gydweithwyr o bob plaid gyda chynhesrwydd a hiwmor. Siaradai Gymraeg gydag acen a thafodiaith brydferth bryniau Clwyd. Roedd hi’n bleser bod yn y Cynulliad Cenedlaethol ochr yn ochr â Brynle.’