The environment, money, and safe places to play and hang out are the concerns of Welsh youngsters

Cyhoeddwyd 15/12/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Yr amgylchedd, mannau diogel i chwarae a chymdeithasu ac arian sy’n poeni pobl ifanc Cymru fwyaf

15 December 2009

Yr amgylchedd, mannau diogel i chwarae a chymdeithasu a phryderon ariannol yw’r prif bethau sy’n poeni pobl ifanc yng Nghymru.

Holodd arolwg ‘Chi sy’n bwysig!’ dros 2700 o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn gynharach eleni a chyhoeddir canlyniadau’r arolwg heddiw.

Mae hefyd yn dangos bod materion fel cyfleusterau mewn ysgolion, parch gan ffrindiau ac oedolion, a bwyta’n iach hefyd yn uchel ym meddyliau plant a phobl ifanc.

Lansiwyd yr arolwg yn yr haf gan Bwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chafwyd bythau pleidleisio arbennig mewn digwyddiadau fel Eisteddfod yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Sioe Frenhinol.

Dywedodd Helen Mary Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae’r adroddiad yn rhoi darlun gwerthfawr o’r ffordd y mae pobl ifanc yng Nghymru yn edrych ar fywyd yma yng Nghymru a’r hyn y maen nhw’n ei ystyried yn bwysig iddyn nhw.”

“Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran a hoffwn roi gwybod iddynt y bydd yr adroddiad yn sail i ymchwiliadau gan y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn y dyfodol.”

“Ond ni fydd eu cyfraniad yn dod i ben gyda’r arolwg. Mae’r Pwyllgor yn benderfynol o wrando ar eu safbwyntiau a gweithredu arnynt. Rwy’n gobeithio y bydd eu sylwadau yn parhau i’n cyrraedd.”

Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi ar yr un diwrnod ag y bydd y Pwyllgor yn dechrau ei ymgynghoriad ar fannau diogel i chwarae a chymdeithasu yng Nghymru, sef yr ail brif bryder a nodwyd yn yr arolwg.

Cafodd yr arolwg a’r adroddiad eu lansio’n swyddogol mewn digwyddiad a gynhelir yn ardal chwaraeon aml-ddefnydd Llwynhendy, Llanelli, gyda phlant o Ysgol Brynteg Llwynhendy ac Ysgol Brynsierfel Llwynhendy.

“Rwy’n gobeithio y byddwn yn cael llawer o ymatebion a safbwyntiau dros yr wythnosau nesaf ynghylch y ddarpariaeth o fannau diogel i chwarae a chymdeithasu er mwyn i ni allu eu hystyried fel rhan o’r ymchwiliad. Byddwn yn anfon holiaduron i blant a phobl ifanc ac yn gofyn am dystiolaeth fideo neu ffotograffig hefyd,” dywedodd Aelod Cynulliad Llanelli.

Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc