Tîmau Allgymorth Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd y DU yn cysylltu â Chonwy

Cyhoeddwyd 18/02/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/02/2015

Bu defnyddwyr gwasanaeth Cyswllt Conwy ar gyfer Anableddau Dysgu mewn gweithdy wythnos yma yn clywed am y bobl sy'n eu cynrychioli yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd y DU, ac yn dysgu sut y gallant gymryd rhan.

Mae Cyswllt Conwy yn helpu i hyrwyddo hawliau pobl ag anableddau dysgu sy'n byw yn Sir Conwy yn y gogledd. Mae nodau'r sefydliad yn cynnwys sicrhau bod pobl yn cael dewis a chyfle cyfartal yn eu cymunedau. Mae'n darparu cyswllt hanfodol rhwng rhanddeiliaid ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ynghylch newidiadau perthnasol mewn gwasanaethau ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.

Roedd y gweithdy yn esbonio rôl a gwaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd y DU ac yn codi ymwybyddiaeth am Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol lleol, gan ysgogi dadl ar y materion gwleidyddol sy'n wynebu Cymru ar hyn o bryd.

Roedd y gweithdy'n gyfle i ofyn cwestiynau am y gwaith sy'n digwydd ar hyn o bryd, gan gynnwys ymgynghoriadau byw. Dangoswyd iddynt hefyd sut y mae penderfyniadau a wneir yn y Cynulliad a senedd y DU yn effeithio ar eu bywydau o ddydd i ddydd.

Yn siarad ar ôl y gweithdy, dywedodd Caryl Mai Williams o dîm allgymorth Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

"Roedd yn gyfle gwych i weithio'n agos gyda thîm allgymorth Senedd y DU a hefyd i gwrdd â defnyddwyr gwasanaeth Cyswllt Conwy. Cafodd y grŵp gyfle i ddysgu mwy am y Cynulliad, Senedd y DU, pwy sy'n eu cynrychioli a sut y gallant gymryd rhan. Gobeithio fod pawb wedi mwynhau'r sesiwn."

Yn siarad ar ôl y gweithdy, dywedodd Elizabeth Price, swyddog allgymorth Senedd y DU:

"Roedd gweithio gyda thîm allgymorth Cynulliad Cymru ym Mae Colwyn yn gyfle gwych i gyfuno ein gwasanaethau ar gyfer y sesiwn, er mwyn helpu i greu gwell dealltwriaeth o sut y mae Senedd y DU a Chynulliad Cymru yn gweithio gyda'i gilydd. Rwy' wedi bod eisiau cynnal sesiwn o'r fath ers amser hir.

"Ar drothwy'r etholiad cyffredinol, mae'r cyhoedd yn gofyn mwy o gwestiynau am sut mae'r holl beth yn gweithio – ac rydym yma i geisio helpu ateb y cwestiynau hyn! Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio ar brosiectau yn y dyfodol gyda thîm Cynulliad Cymru. Gobeithio y gallwn ddatblygu ffyrdd newydd o weithio gyda'n gilydd o ganlyniad i'r digwyddiad hwn gyda Cyswllt Conwy!"

Yn siarad ar ôl y gweithdy, dywedodd Sue Davies, Uwch Gydlynydd Cyswllt Conwy:

"Roeddem yn hynod falch bod tîm allgymorth y Cynulliad Cenedlaethol a Senedd y DU wedi cyfuno i ddarparu gweithdy rhyngweithiol a diddorol ar y cyd ar gyfer ein haelodau, sy'n cynnwys pobl ag anableddau dysgu, rhieni/gofalwyr a sefydliadau gwirfoddol.

"Fe wnaeth pawb fwynhau. Nid yw'n hawdd gwneud gwleidyddiaeth yn ddiddorol, ond fe lwyddont drwy ddefnyddio lluniau, fideos ac ymarferion hwylus i'r defnyddwyr."

Mae Tîm Allgymorth y Cynulliad yn gweithio'n galed i ymweld â grwpiau a sefydliadau ym mhob rhan o Gymru gan ddarparu gwybodaeth am swyddogaethau craidd y Cynulliad, am unrhyw ymgynghoriadau perthnasol, a sut y gall pobl gymryd rhan mewn penderfyniadau pwysig sy'n effeithio ar bob un ohonom yng Nghymru.

Os oes gennych ddiddordeb trefnu gweithdy gyda Thîm Allgymorth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, cysylltwch â'r adran drwy anfon neges e-bost at cysylltu@cynulliad.cymru neu ffonio 0300 200 6565.