Trafnidiaeth ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd – datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes

Cyhoeddwyd 06/11/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2015

Cynhaliodd Pwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad Cenedlaethol gyfarfod ddydd Iau 5 Tachwedd 2015 ynghylch problemau gyda'r trefniadau trafnidiaeth yng Nghaerdydd yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd.

Clywodd y Pwyllgor gan y canlynol, ymysg eraill: Trenau Arriva Cymru, Great Western Railway, Network Rail, Cyngor Dinas Caerdydd a threfnwyr Cwpan Rygbi'r Byd.

Mae Cadeirydd y Pwyllgor, William Graham AC, wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol ar ôl y cyfarfod:

"Clywodd y Pwyllgor lawer iawn o dystiolaeth heddiw gan weithredwyr rheilffyrdd a bysiau, Heddlu De Cymru, Cyngor Caerdydd a threfnwyr Cwpan Rygbi'r Byd i glywed beth arweiniodd at broblemau trafnidiaeth yn ystod tair gêm gyntaf Cwpan Rygbi'r Byd, a sut y llwyddwyd i'w goresgyn ar gyfer y pum gêm olaf i gael eu cynnal yng Nghaerdydd.

"Mae'n amlwg i ni mai gwreiddyn y broblem yma yw'r seilwaith yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Mae'r seilwaith hwnnw'n heneiddio, ac mae angen buddsoddiad sylweddol yn yr orsaf i greu gorsaf sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif, a disgwyliadau teithwyr heddiw.

"Mae stori gadarnhaol i'w hadrodd hefyd. Roedd y pum gêm olaf yn y stadiwm yn dangos bod modd darparu profiad sy'n caniatáu i nifer fawr o gefnogwyr adael heb aros am gyfnod hwy na'r gêm ei hun. Bellach mae'r safon wedi'i chodi ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, a byddem yn annog pawb sy'n gysylltiedig i barhau i weithio gyda'i gilydd i gynnal y safon honno.

"Mae'r dystiolaeth i gyd yn awgrymu bod disgwyliadau cefnogwyr a'r trefnwyr yn codi, ac mae angen i Gaerdydd fod yn fwy uchelgeisiol a pharhau i wella'r prosesau cynllunio a darparu ym maes trafnidiaeth er mwyn parhau i fod yn un o leoliadau mwyaf blaenllaw'r byd ar gyfer digwyddiadau mawr.

"Bydd Caerdydd yn croesawu gêm bêl-droed derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn 2017 – sy'n denu mwy o wylwyr na'r un digwyddiad chwaraeon blynyddol arall yn y byd. Amcangyfrifir bod cynulleidfa o 180 miliwn yn ei wylio ar y teledu mewn dros 200 o wledydd. Mae'n hanfodol ein bod yn dysgu gwersi Cwpan Rygbi'r Byd ac yn eu rhoi ar waith ar gyfer y digwyddiad hwnnw."

Bydd y Pwyllgor nawr yn paratoi adroddiad byr yn nodi argymhellion allweddol ar gyfer pawb sydd ynghlwm â chynllunio digwyddiadau mawr.

Llun: Jeremy Segrott (Flickr) dan drwydded Creative Commons.