Trefniadau’r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer y streic ar 30 Mehefin
29 Mehefin 2011
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi rhoi trefniadau ar waith er mwyn lleihau’r effaith bosibl ar waith Aelodau’r Cynulliad a’u staff o ganlyniad i’r gweithredu diwydiannol ar 30 Mehefin 2011.
Ni amserlennwyd unrhyw fusnes ffurfiol ar 30 Mehefin, ond er mwyn cydymffurfio â rheoliadau’n ymwneud â diogelwch y cyhoedd, bydd y Senedd a’r Pierhead ynghau i’r cyhoedd a staff ddydd Iau.
Bydd Ty Hywel yn agored i Aelodau’r Cynulliad, i’w staff cymorth ac i staff Comisiwn y Cynulliad.
Bydd gwasanaethau hanfodol, gan gynnwys cymorth TGCh, diogelwch, cymorth cyntaf, a chymorth cyffredinol i Aelodau ar gael yn ystod y gweithredu diwydiannol.