Darnau punt a nodyn pum punt.

Darnau punt a nodyn pum punt.

Trysorlys y DU yn tanseilio Llywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd 14/10/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/10/2024   |   Amser darllen munudau

Mae Pwyllgor yn y Senedd yn galw am newid diwylliannol yn y berthynas rhwng Caerdydd a Llundain er mwyn rhoi stop ar danseilio Llywodraeth Cymru gan Drysorlys y DU. 

Mae’r alwad yn ymateb i’r ‘diffyg parch cilyddol a chydradd’ a brofwyd gan y sefydliadau datganoledig yng Nghymru wrth geisio ymgysylltu â Llywodraeth flaenorol y DU ar faterion ariannol. 

Problemau personoliaeth 

Canfu adroddiad y Pwyllgor Cyllid mai 'mympwyon a phersonoliaethau Gweinidogion y Trysorlys' yw’r ffactor cyffredinol yn y cyfathrebu rhwng Llundain a Chaerdydd. Mae strwythurau rhynglywodraethol newydd wedi cael eu rhoi ar waith yn y blynyddoedd diwethaf, ond mae’r rhain heb gael eu profi eto. 

Ers i’r Pwyllgor ddechrau’r ymchwiliad hwn, mae Llywodraeth newydd wedi cael ei hethol yn y DU ac mae nifer o newidiadau wedi digwydd o fewn Llywodraeth Cymru.  

Mae’r Pwyllgor yn galw ar y ddwy ochr i achub ar y cyfle hwn i ddechrau o’r dechrau yn y berthynas hon a sicrhau bod prosesau’n cael eu rhoi ar waith i wella cyfathrebu ar gyfer y tymor hir.  

Tryloywder a chategoreiddio prosiectau 

Mae’r adroddiad hefyd yn annog Llywodraeth y DU i fod yn fwy tryloyw mewn cyhoeddiadau cyllido yn y dyfodol ac egluro a yw arian parod a ddarperir i Gymru wir yn “arian newydd” yn hytrach na chyllid sydd eisoes wedi’i gyhoeddi.   

Er enghraifft, mae rheilffordd HS2 rhwng Llundain a Birmingham yn cael ei thrin fel prosiect Cymru a Lloegr, sy'n golygu nad yw Cymru'n gymwys i gael arian ychwanegol. 

Mae’r Pwyllgor yn galw am i Lywodraeth Cymru gael mwy o rôl yn y broses o gategoreiddio prosiectau mawr fel hyn i sicrhau na fydd y Trysorlys yn oddrychol wrth wneud penderfyniadau sy’n cael effaith sylweddol ar lefelau ariannu yng Nghymru. 

Mae’r Pwyllgor hefyd yn galw am i’r dyddiadau ar gyfer cyhoeddiadau gwariant y DU fod yn hysbys ymlaen llaw er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru i gynllunio ei chyllideb yn fwy effeithiol ac i ganiatáu mwy o amser i’r Senedd graffu ar benderfyniadau o’r fath. 

Tanseilio cysylltiadau 

Pan fydd Trysorlys y DU yn gwneud penderfyniadau cyllido, mae’r Pwyllgor wedi canfod bod y rhain yn tanseilio cysylltiadau rhynglywodraethol drwy drin Llywodraeth Cymru fel petai’n adran arall o Lywodraeth y DU yn hytrach na llywodraeth ddatganoledig.  

Yn y dyfodol, dylid defnyddio'r 'Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid', sy'n dod â llywodraethau'r DU, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ynghyd, i rannu gwybodaeth ariannol â'r llywodraethau datganoledig cyn i ddatganiadau gwariant gael eu cyhoeddi. 

Mae Pwyllgor Cyllid y Senedd hefyd yn rhwystredig oherwydd y diffyg ymgysylltiad ar ran Trysorlys y DU. Mae datganoli’n golygu bod cysylltiad agos rhwng penderfyniadau cyllidebol yn y DU a Chymru, felly mae’r ffaith bod Gweinidogion y Trysorlys yn gwrthod ymddangos gerbron y Pwyllgor yn amharu ar ei waith.  

Mae’r adroddiad yn mynegi’r dymuniad i Weinidogion newydd y Trysorlys yn Llundain ddangos mwy o barch tuag at y Pwyllgor ac ymgysylltu â’r Senedd mewn ysbryd o fod yn agored ac yn dryloyw.  

Dywedodd Peredur Owen Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, “Yn rhy aml, mae gwleidyddion yn Llundain fel petaen nhw’n esgus nad yw datganoli yn bodoli, gan ddangos diffyg parch tuag at y sefydliadau datganoledig wrth wneud cyhoeddiadau gwariant.  

“Mae adroddiad heddiw yn dangos bod y berthynas rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru dan straen a’i bod yn aml yn aneffeithiol – ond mae gobaith ar gyfer y dyfodol. 

“Mae’r Pwyllgor yn galw am aeddfedrwydd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Dylai hysbysu’r llywodraethau datganoledig am gyhoeddiadau gwariant sy’n effeithio arnynt gael ei ymgorffori yn y system, yn hytrach na gadael y mater i weinidogion unigol. 

“Rydym yn gobeithio y bydd y Llywodraeth newydd yn Llundain yn cymryd y materion a godir gan yr adroddiad hwn o ddifrif ac yn dechrau o’r dechrau yn y berthynas hon i wneud yn siŵr bod datganoli’n cael ei barchu.” 

Darllenwch yr adroddiad