Tusw, telynau a phlant ysgol yn croesawu Ei Fawrhydi

Cyhoeddwyd 16/09/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Roedd Osian Powell, 11 oed, wrth ei fodd wrth gwrdd â’u Mawrhydi Y Brenin Charles III a'r Frenhines Gydweddog yn y Senedd ar ddydd Gwener 16 Medi, 2022.

Cyflwynodd Osian dusw o flodau i’r Pâr Brenhinol yn ystod eu hymweliad cyntaf â'r Senedd ers marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines Elizabeth II. Daeth ei gyd-ddisgyblion o Ysgol Gymraeg Hamadryad, Caerdydd, hefyd i gyfarch Eu Mawrhydi ar brynhawn brâf ym Mae Caerdydd.  

Roedd Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru, telynorion o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, cyn Delynores Frenhinol a chludydd byrllysg o dîm diogelwch y Senedd hefyd yn rhan o’r diwrnod hanesyddol.  

Daeth Eu Mawrhydi y Brenin a'r Frenhines Gydweddog i'r Senedd i glywed Cynnig o Gydymdeimlad gan Aelodau o'r Senedd. Roedd yr ymweliad yn rhan o ddiwrnod o ddigwyddiadau Brenhinol yn y Brifddinas, a oedd hefyd yn cynnwys Gwasanaeth Myfyrdod yn Eglwys Gadeiriol Llandaf a derbyniad yng Nghastell Caerdydd.

Senedd Ieuenctid Cymru

Cafodd 12 Aelod Senedd Ieuenctid Cymru gyfle i esbonio i’w Mawrhydi am eu gwaith a’u blaenoriaethau o ran cynrychioli lleisiau pobl ifanc Cymru.

Roedd Tegan Skyrme o Sir Benfro, sydd â nam ar y golwg, yn falch o ddweud wrth Ei Fawrhydi’r Brenin am ei rôl fel yr Aelod sy’n cynrychioli Anabledd Dysgu Cymru:

“Gofynnodd Ei Fawrhydi i mi am Senedd Ieuenctid Cymru – sut y cawsom ein hethol, pwy rydw i’n ei gynrychioli a’r gwaith rydyn ni’n ei wneud – ac am fy ngwaith gydag Anabledd Dysgu Cymru yn gweithio i wneud yn siŵr bod cymorth yn ei le. Gofynnodd a oedd, ac roeddwn yn onest i ddweud bod llawer o ffordd i fynd ond rydym yn symud yn y cyfeiriad cywir. Mae'n braf ei fod wedi cymryd diddordeb ac yn awyddus iawn i wybod beth oedd yw ein nod.

“Roedd y Brenin yn siaradus ac fe wnaeth ein cysuro ni i gyd. Roedd yn anrhydedd enfawr cael fy newis i fynychu achlysur mor bwysig mewn hanes.”



Balchder cludwr y byrllysg ar achlysur hanesyddol

Shahzad Khan, swyddog diogelwch y Senedd, oedd yn perfformio rôl bwysig cludwr y byrllysg, gan arwain yr orymdaith Frenhinol a chludo’r byrllysg seremonïol i’r Siambr, a hynny am yr eildro.

Shahzad hefyd oedd yn cludo’r byrllysg yn ystod ymweliad olaf Ei Mawrhydi'r Frenhines â Chymru ar achlysur Agoriad Swyddogol y 6ed Senedd ym mis Hydref 2021. Mae wedi gweithio fel swyddog diogelwch ers 4 blynedd ac mae'n falch iawn o’i ran allweddol yn yr achlysur hanesyddol.

Meddai Shazhad Khan, cludwr y byrllysg a swyddog diogelwch y Senedd: “Roedd yn anrhydedd mawr cludo’r byrllysg pan ymwelodd y Frenhines â’r Senedd y llynedd ac roeddwn wedi fy syfrdanu pan ofynnwyd i mi wneud hynny eto. Mae cyflawni’r rôl y tro hwn yn achlysur trist iawn, ond rwy’n falch o fod yn rhan o’r ddiwrnod hanesyddol hwn.”

Telynorion

Roedd tri telynores ddawnus yn chwarae yn ystod yr ymweliad, wrth i’w Mawrhydi gwrdd ag Aelodau o’r Senedd.

Roedd y cyn Delynores Brenhinol, Claire Jones, yn perfformio darn o gerddoriaeth wreiddiol a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer ymweliad Ei Fawrhydi. Cafodd y darn, Gorymdaith i’r Brenin Charles, ei gyfansoddi gan ei gwr, Chris Marshall.

Cafwyd cerddoriaeth hefyd gan ddwy delynores o’r Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru, Cerys Rees a Nia Evans: “Roeddem yn ddiolchgar iawn am y cyfle i chwarae mewn digwyddiad mor hanesyddol ac yn teimlo’n falch iawn o gynrychioli Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.”

Senedd yn cydymdeimlo

Daeth Ei Fawrhydi Y Brenin i’r Senedd ddydd Gwener, 16 Medi, i dderbyn Cynnig o Gydymdeimlad gan Aelodau o’r Senedd. Cafodd y cynnig ei gyflwyno gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS, ac fe atebodd Y Brenin yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Wrth agor y sesiwn, talodd Llywydd y Senedd, y Gwir Anrh. Elin Jones AS, deyrnged i’w Mawrhydi Y Frenhines gan hel atgofion am ei hoffter o frîd Corgi Sir Benfro, yn ogystal â’i diddordeb parhaus mewn datganoli a datblygiad y Senedd:

“Roedd y Frenhines gyda ni ym 1999 ar gyfer agoriad swyddogol ein Cynulliad newydd cyntaf. Mae hi wedi rhannu ein taith ddatganoli. Cymerodd ran ym mhob un o'n 6 agoriad swyddogol, gan gyfeirio bob tro at ddatblygiad ein pwerau a dod yn Senedd Cymru, yn 'senedd genedlaethol'.

“Fy ngobaith diffuant yw y bydd y berthynas fodern rhwng y Senedd hon, y wlad hon a’r Teulu Brenhinol yn cael ei gwreiddio mewn parch a’i chynnal gan ddealltwriaeth.”

Roedd un rhan o’r ymweliad Brenhinol oedd y digwyddiad yn y Senedd. Cyn hynny, mynychodd Eu Mawrhydi wasanaeth yng Nghadeirlan Llandaf ac yna derbyniad yng Nghastell Caerdydd.