Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gofyn am farn y cyhoedd am y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru).
Un o filiau Llywodraeth Cymru yw hwn, ac fe'i cyflwynwyd gan Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Bwriad y Bil yw gwella ansawdd y gofal a'r cymorth a ddarperir i bobl yng Nghymru, a hynny drwy adolygu a symleiddio'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Ar hyn o bryd, mae'r Pwyllgor yn holi a oes angen y Bil hwn, ac yn holi ai deddfu yw'r ffordd gorau o gyflawni amcanion y Bil. Mae'n edrych hefyd ar oblygiadau ariannol y Bil ac ar unrhyw ganlyniadau anfwriadol a allai ddeillio ohono, ac yn ystyried a ddylid cynnwys unrhyw ddarpariaethau ychwanegol.
Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor:
"Mae gwasanaethau cymdeithasol yn darparu gofal a chymorth i lawer o bobl yng Nghymru, gan gynnwys rhai o'r bobl sy'n fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.
"Mae'n bwysig i bob un ohonom sicrhau bod gwasanaethau o safon briodol yn cael eu darparu, gan bobl sydd â chymwysterau priodol, sydd wedi'u rheoleiddio'n briodol ac sy'n cael mynediad at yr hyfforddiant cywir.
"Ym mis Gorffennaf, gofynnir i Aelodau'r Cynulliad benderfynu a ddylai'r Bil oresgyn y rhwystr cyntaf ar ei daith ddeddfwriaethol. Mae angen inni glywed barn pobl ledled Cymru i'n helpu ni i wneud y penderfyniad hwnnw."
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cau ddydd Gwener 24 Ebrill 2015. Ceir rhagor o fanylion ynghylch yr ymgynghoriad yma: Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru). Gallwch hefyd gael gwybodaeth am sut i leisio barn ynghylch y ffordd y mae gwasanaethau gofal cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael eu rheoleiddio yng Nghymru, ac ynghylch a ydych o'r farn bod y Bil hwn yn mynd i'r afael â'r materion hyn yn y ffordd iawn.